“Roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau cyfrannu at yr achos, bod yn rhan o ymdrech i warchod a chefnogi’r gymuned leol, ein teuluoedd a’n ffrindiau.”

Profiadau dau aelod o dîm Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yng Ngwynedd.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Elin Evans

Mae gan swyddogion olrhain cysylltiadau rôl allweddol i’w chwarae yn yr ymdrech i atal lledaeniad y coronafeirws a diogelu ein cymunedau.

Erbyn hyn, mae dros 100 o staff yn gweithio i dîm Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yng Ngwynedd.

Maent yn gweithio’n ddygun i olrhain cysylltiadau pobl sydd wedi profi yn bositif i’r feirws ac adnabod lleoliadau mae’r unigolion wedi ymweld â nhw cyn iddynt gael prawf positif.

Er bod rhai aelodau o’r tîm wedi adleoli dros-dro o wasanaethau eraill o fewn y Cyngor, mae nifer o’r staff newydd.

Yn eu plith, mae Elin Evans o Dinas ger Caernarfon a Bedwyn Lloyd Philips, sy’n byw yng Nglan-yr-afon ger Y Bala.

“Mae hi’n fraint ac yn gyfrifoldeb”

Wedi gyrfa ym myd addysg a busnes, penderfynodd Elin Evans ei bod am gyfrannu tuag at yr ymdrech lleol.

“Roeddwn i’n teimlo fy mod i eisiau cyfrannu at yr achos,” meddai, “bod yn rhan o ymdrech i warchod a chefnogi’r gymuned leol, ein teuluoedd a’n ffrindiau.

“Mae hi’n fraint ac yn gyfrifoldeb i fod yn ymwneud efo’r unigolion yma ar gyfnod heriol iddyn nhw.”

Eglurodd pwysigrwydd dangos empathi, gan fod pobl yn aml yn teimlo’n euog eu bod wedi dal yr haint ac yn ofni eu bod wedi ei drosglwyddo i eraill.

“Tydan ni ddim yma i feirniadu,” meddai, “ein gwaith ni ydi i’w helpu nhw, a helpu i olrhain y cysylltiadau fel y gellir torri ar y cylch ac atal lledaeniad yr haint.”

Dywedodd bod yr ymateb gan y cyhoedd yn gadarnhaol iawn, wrth i bawb fod yn barod i chwarae eu rhan.

“Tydi rhywun byth yn gwybod ar ddechrau shifft efo pwy y byddwch chi’n siarad,” meddai, “felly mae’n gallu bod yn amrywiol iawn.

“Ond mae pobl yn ddiolchgar iawn am y gwaith ac mae’n braf clywed fod yr ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi gan bobl Gwynedd.”

“Rydw i’n edrych ymlaen i weithio bob diwrnod”

Ar ôl graddio mewn cerddoriaeth, roedd prinder cyfleoedd am swyddi yn y maes, yn ôl Bedwyn Lloyd Phillips. Felly, penderfynodd wneud cais am swydd fel swyddog olrhain cysylltiadau.

“Mae’r gwaith yn wych,” meddai, “ac rydw i’n mwynhau gallu siarad a helpu pobl yn fy ngwaith.

“Mae’r profiad wedi bod yn gadarnhaol ac mae’n beth braf iawn i wybod fy mod i’n gweithio dros y gymuned. Does yr un ohonon ni’n gwybod pryd y gallai Covid-19 daro, ac felly dwi’n gobeithio fod gwybod fod tîm o bobl Gwynedd yn helpu yn gysur i bobl.”

Bedwyn Lloyd Phillips

Bellach, mae Bedwyn yn gweithio fel Goruchwyliwr Busnes gyda’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu ac eglurodd bod yna ymdeimlad cryf o berthyn o fewn y tîm.

“Rydan ni’n dod o gefndiroedd gwahanol,” meddai, “yn arweinydd cerddorfa fel fi, staff oedd yn arfer gweithio mewn llyfrgelloedd a gwahanol wasanaethau ar draws y Cyngor – ond mae’r ymdeimlad fel tasan ni wedi bod yn cydweithio ers blynyddoedd.

“Rydw i’n edrych ymlaen i weithio bob diwrnod, ac nid pawb sy’n gallu dweud hynny.”

“Gwaith allweddol i gadw ein cymunedau ni’n saff”

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydw i mor ddiolchgar i’r holl staff sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yma yng Ngwynedd – maen nhw’n gwneud gwaith allweddol i gadw ein cymunedau ni’n saff.

“Diolch i’r staff gweithgar yma am eu hymdrechion – ac mi fyddwn i’n annog aelodau’r cyhoedd i ddilyn y cyngor mae’r staff yn ei ddarparu er mwyn cadw eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau yn ddiogel.

“I unrhyw un sydd â symptomau Coronafeirws, arhoswch adref nes i chi gael prawf. Drwy  hunan-ynysu, byddwch yn helpu i reoli lledaeniad yr haint a chadw ffrindiau, y gymuned ehangach, ac yn enwedig y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau yn ddiogel.”

Mae manylion ynglŷn a threfnu prawf ar gael fan hyn.