Mae yna Rybish ar S4C ar Nôs Wener!

Comedi newydd

gan Barry "Archie" Jones
cast Rybish

Cast Rybish

DSC_8824

Dyfed Thomas fel “Eurwyn”

DSC_8830

Sion Pritchard fel “Clive”

DSC_9333

Betsan Ceiriog ydi “Bobbi”

Mae rhaglen comedi newydd sy’n cychwyn ar S4C Nos Wener yma wedi creu hanes yn y byd ddarlledu trwy ddod y cyntaf ym Mhrydain i gwblhau ffilmio cyfres yn ystod y clo mawr – a hynny trwy greu swigen i’r cast a’r criw.

Er i’r ffilmio gwreiddiol orfod stopio ym mis Mai eleni oherwydd y pandemig, mi lwyddodd y criw o gwmni teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon gael caniatâd i ail gydio yn y ffilmio drwy ofyn i’r cast a’r criw allweddol i hunan-ynysu am bythefnos, cyn ei lleoli mewn gwesty caeedig yng Nghlynnog Fawr am weddill y cyfnod ffilmio.

Mae’r gyfres, gafodd ei sgwennu gan Barry “Archie” Jones, sydd hefyd yn gyfrifol am y cyfresi  “DIMBYD” a “‘RUN SBIT”, yn dilyn hanes gweithwyr mewn canolfan ailgylchu diarffordd yng Ngogledd Cymru.

Ffilmiwyd y gyfres ar hen safle tomen sbwriel Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle ac mai’n dilyn hanes Clive Pritchard, sy’n cael ei bortreadu gan yr actor Sion Pritchard o Llanystumdwy, wrth iddo drio cadw trefn ar ei gydweithwyr.

Ymhlith yr actorion eraill yn y cast mae Dyfed Thomas – fydd rhai yn ei gofio am chwarae’r cymeriad eiconig Brian Lloyd Jones yn y gyfres Siop Siafins – yn ogystal a Betsan Ceiriog o Gaeathro, sy’n cyflawni ei swydd actio broffesiynol cyntaf wrth bortreadu Bobbi, myfyrwraig seicoleg sy’n dod i weithio i’r ganolfan dros yr haf.

Mae Rybish ymlaen ar S4C am 9.00y.h pob Nôs Wener.