Tîm rygbi merched Caernarfon yn cefnogi Banc Bwyd Arfon

Ymgyrch #MilMisMai yn dangos pwysigrwydd yr ochr gymdeithasol o rygbi.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae tîm rygbi merched Caernarfon yn rhedeg, cerdded a seiclo mil o filltiroedd ym mis Mai er mwyn codi arian i Fanc Bwyd Arfon.

Gorfodwyd Undeb Rygbi Cymru i roi terfyn ar y tymor rygbi ddechrau fis Mawrth oherwydd y coronafeirws, ers hynny mae Clwb Rygbi Caernarfon wedi bod yn cydweithio â Banc Bwyd Arfon a sefydliadau eraill er mwyn cefnogi pobol yr ardal.

Eglurodd Swyddog Ymgysylltu Rygbi Undeb Rygbi Cymru, Hannah Hughes sydd yn chwarae i dîm merched Caernarfon fod sialensiau fel hyn yn bwysig i dimau chwaraeon ac i’r gymuned ehangach.

“Er bod y tymor rygbi wedi dod i ben mae’r Clwb Rygbi yn dal i fod yn ganolbwynt i bobol yr ardal – dyma le cafwyd y cyfarfod cyntaf Cofis Curo Corona, a bellach mae’r banc bwyd wedi bod yn defnyddio’r adnoddau.

“Bach o hwyl ydy’r her #MilMisMai, cyfle i ddod i adnabod ein gilydd yn well, ac hefyd cyfle i ni gefnogi ein chwaraewyr sydd yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd a chefnogi Banc Bwyd Arfon.”

Gwersi i’w dysgu

Er bod Hannah Hughes yn cydnabod roedd hi’n anodd gweld y tymor rygbi yn dod i ben yn gynnar, mae’n ffyddiog y bydd clybiau rygbi yng Nghymru yn elwa o’r cyfnod yma.

“Doedd neb am weld y tymor rygbi yn dod i ben, ond mae’n gyfle i ni gael brêc ac ailystyried sut gall hyfforddwyr a thimau gydweithio yn well er mwyn cadw’n heini a sicrhau iechyd meddwl clir.

“Dwi wedi bod yn cynnal sesiynau ffitrwydd ar lein, ac mae cyfarfodydd Zoom wedi bod yn gyfle gwych i ni gymdeithasu.

“Mae’r cyfnod yma sicr wedi dangos pwysigrwydd yr ochr gymdeithasol o rygbi.”

Os hoffech chi gyfrannu i her #MilMisMai Tîm Merched Caernarfon cliciwch yma. 

 

Banc Bwyd Arfon

Mae Banc Bwyd Arfon ar agor rhwng 12:00-14:00 bob dydd Mawrth a dydd Gwener.

Os ydych chi’n dymuno defnyddio’r banc bwyd mae rhaid cael taleb o flaen llaw er mwyn derbyn parsel bwyd.

Cysylltwch gyda’r banc bwyd i drefnu hyn: info@arfon.foodbank.org.uk

Oherwydd Gŵyl y Banc bydd Banc Bwyd Arfon ar gau dydd Gwener, Mai 8.