Sengl Newydd: KIM HON – Parti Grwndi.

Gwrandewch ar sengl newydd Kim Hon

gan Iwan Williams

Gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n ddiogel ac yn iach!

Ar ran KIM HON swni’n licio cyflwyno ei’n sengl newydd ‘Parti Grwndi’ sydd allan ar label Libertino heddiw.

Mae’r sengl hon wedi cael ei chymysgu gan Steffan Pringe, ei ‘fasterio’ gan Charlie Francis a’r arbennig Lleucu Non sy’n gyfrifol am y gwaith celf, sydd i’w weld yn y fideo yma:

? Fel diolch am eich holl gefnogaeth i KIM HON dros y flwyddyn diwethaf fe fydd ‘Parti Grwndi’ ar gael i'w lawrlwytho am ddim dros y penwythnos ?? As a thanks for all your support to KIM HON over the last year ‘Parti Grwndi’ will be free to download over the weekend ??? Lawrlwytho am ddim / download for free:https://soundcloud.com/libertinorecords/kim-hon-parti-grwndi/s-J7Vd226Fy9w

Posted by Libertino on Friday, 17 April 2020

Parti Grwndi allan ar Soundcloud heddiw ac ar gael i’w lawrlwytho am ddim drw’r penwythnos. Kim listen! fydd hi allan i’w ffrydio ar Spotify, iTunes a ballu dydd Llun.

Hon fydd y drydedd sengl fydd yn ymddangos ar ein EP sydd, gyda lwc, ar ei ffordd cyn bo’ hir. Mi fydd hi’n broses ddigon od ceisio gweithio ar y prosiect tra’n ynysu, ond rydym yn edrych ’mlaen at yr her. ‘Dani ddigon lwcus fod technoleg dyddia’ yma yn ein galluogi ni i greu cerddoriaeth yn ein tai, felly cadwch eich clustiau’n ‘gored, mae ’na fwy i ddod yn ddigon buan, er gwaetha’r amgylchiadau gwallgo!

 

Iwan Llŷr (KIM HON)