Sian Eleri: Y DJ o Dre ‘di bachu gig ar Radio 1

“Alla i ddim aros i ddod â rhai o’r recordiau chill i chi bob nos Sul”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae un o genod dre am gael gwireddu breuddwyd – cyflwyno ei sioe ei hun ar Radio 1!

Sian Eleri o Gaernarfon sy’n cynhyrchu rhaglenni Huw Stephens ar Radio 1 ac mae eisoes yn cyflwyno ei sioeau ei hun ar Radio Cymru.

A heddiw mae hi wedi ei henwi fel un o bum cyflwynydd newydd Radio 1.

Daw hynny wedi i’r BBC gyhoeddi fod sawl person yn gadael yr orsaf ddiwedd y flwyddyn, gan gynnwys Huw Stephens.

“Amser gorau fy mywyd”

Mae hynny wedi creu lle i gyflwynwyr newydd ac mae’n amlwg fod Sian Eleri wedi gwirion i gael y cyfle:

“Dw i mor hapus i fod yn ymuno â thîm Radio 1”, meddai.

“Cefais amser gorau fy mywyd yn gweithio ar y Chillest Show y Nadolig diwethaf, felly mae cael y cyfle i ddod yn ôl a dod yn rhan o’r teulu yn golygu popeth i mi.

“Alla i ddim aros i ddod â rhai o’r recordiau chill i chi bob nos Sul.”

Mae Sian Eleri yn cymryd yr awenau gan Phil Taggart, cyflwynydd y sioe ers sawl blwyddyn.

Y swydd ddelfrydol

Yn gynharach eleni, roedd y DJ o Gaernarfon wedi sôn wrth gylchgrawn Golwg mai ei swydd ddelfrydol fyddai cael sioe ar Radio 1.

“Un o’r pleserau o weithio ar y radio ydy’r teimlad cymunedol a chysurus mae o’n ei gynnig i gymaint o bobl,” meddai.

“Byswn i wrth fy modd gallu cyflwyno rhaglen sy’n cyfuno artistiaid newydd a ffresh, ynghyd â cherddoriaeth chilled.”

Bywyd yn Llundain

Mae’r ferch o Gaernarfon yn byw yn Llundain ac yn ei sgwrs gyda chylchgrawn Golwg dywedodd fod prysurdeb y ddinas fawr yn aml yn gwneud iddi hiraethu am Gymru:

Dw i wedi bod yn ddigon lwcus i rannu tŷ hefo tri ffrind yn ne-ddwyrain y ddinas,” meddai nôl ym mis Gorffennaf.

“Roedd hi’n bwysig iawn i mi drio dod o hyd i rywle i fyw oedd hefo gwyrddi yn agos, a dw i’n ffodus i fyw rhyw bum munud o barc Peckham Rye.”

“Mae byw mewn dinas yn gallu bod yn ofnadwy o claustrophobic rhywsut, felly mae crwydro yn y parc yn seibiant braf o’r helynt ac yn atgoffa fi o wyrddni gogledd Cymru.”

Y cyfnod cloi mawr yng Nghaernarfon

Treuliodd y cyfnod cloi mawr yng nghwmni ei rhieni yng Nghaernarfon.

“Dyma’r tro cyntaf i mi fod adref yng Nghaernarfon efo Mam a Dad am gyfnod hir ers pan oeddwn i’n ddeunaw,” meddai wrth gylchgrawn Golwg dros yr Haf.

“Fues i’n gweithio yn Camp America yn ystod Hafau fy nghwrs coleg. Felly mae wedi bod yn brofiad lyfli cael gwario amser efo fy rhieni.”

“Yn ystod y cyfnod yma dw i wedi gwneud sawl cwiz, dysgu Ffrangeg (heb llawer o hwyl, ond c’est la vie!) a defnyddio peiriant gwnïo. Mi wnaethom ni fel tŷ wnïo tua 50 o fagiau molchi i’r Gwasanaeth Iechyd.”