Smwddis Swig

Cyflwyniad i fy nghwmni newydd.

Tomos Huw Owen
gan Tomos Huw Owen

Enw
Tom

Oed
23

Byw
Caernarfon

Y busnes
Enw’r cwmni yw Swig ac mi fyddai’n gwerthu smwddis a jiwsus cŵl, hip a blasus. O Mis Awst tan Pasg blwyddyn nesa, fyddai’n gobeithio gwneud smwddis a jiwsus ffres o adra, a danfon nhw o gwmpas ardal Caernarfon yn y Corsa bach, tra’n trio codi ymwybyddiaeth o’r cynnyrch newydd yn yr ardal.

Ymlaen i Pasg 2021 a’r gobaith yw y byddaf efo “juice truck” sef fan lle fyddai’n gallu gwneud a gwerthu’r cynnyrch. Fydd hyn yn fy ngalluogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon, yn ei gwneud hi’n haws i dargedu mwy o gwsmeriaid, a galluogi mi deithio i lefydd sy’n llawn vibes fel y ’Steddfod a ballu.

Y cynnyrch
Fydd pob smwddi a jiws gan Swig yn hollol fegan. Does na’m llawer o wasanaethau hollol fegan o gwmpas ardal Caernarfon, felly dwi’n gyffrous i allu cynnig rhywbeth newydd i’r bobol sydd eisiau byw’r ffordd yma.

Hefyd, fydd y cwpanau yn compostable neu bydd modd i’w hailgylchu, er mwyn i’r cwmni fod mor wyrdd ac sy’n bosibl. Mae’r ffrwythau a’r llysiau sy’n cael eu defnyddio o’r safon uchaf – a lleol ar bob cyfri, os yw’n bosib – mae nhw’n top class!

Smwddis
I wneud y smwddis fyddai’n rhewi rhai o’r ffrwythau. W
rth gymysgu’r ffrwythau sydd wedi rhewi, cawn texture estmwyth i bob smwddi. Trwy rewi, dwi ddim yn colli unrhyw faeth o’r ffrwythau, e.e. mae lefelau antioxidants y ffrwythau yn aros yr un peth. Hefyd, bydd y cynnyrch yn cael eu pigo pan mae’r ffrwythau ar ‘peak ripeness’, felly yn flasus, blasus, blasus!

Jiwsus
Wrth ddefnyddio juicer fyddai’n creu jiwsus iach iawn, ac yn defnyddio cyfuniad o lysiau a ffrwythau ffres. Fydd y juicer yn gwasgu’r jiws allan o’r llysiau neu ffrwythau, gan gadw’r elfennau maethlon.

Mae defnyddio juicer wedi bod yn duedd poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, fel ffordd ddefnyddiol o gadw’n iach a cholli pwysau Felly dwi’n edrych ymlaen at ddarparu’r cynnyrch ffres yma!

Lle dwi am fod mewn 5 mlynedd
Dwi’n gobeithio bydd Swig yn enw a brand cyfarwydd yn Arfon, a’r ardal bellach. Dwi’n gobeithio bydd llwyddiant y busnes wedi arwain i mi allu gwneud hyn yn llawn amser, ac efallai fydd gen i siop ar y stryd fawr yn rhywle. Swni’n licio hefyd meddwl fy mod wedi datblygu mwy o gynnyrch amrywiol i ychwanegu at y smoothie a’r jiwsus.

Gair i gloi
Mae’r busnes yn rhan o gynllun Llwyddo’n lleol 2050 sef project sydd yn rhoi cefnogaeth i syniadau pobol ifanc Gwynedd a Môn. Fyswni’n hoffi diolch i bawb o’r cynllun am y cyfle yma, a diolch arbennig i Marie Elen Hughes a Geraint Hughes. 

Yn olaf, dim ond eisiau diolch i bawb am y gefnogaeth gwych dwi di gael, a dwi’n edrych ymlaen i ddechrau!