Be Sydd Ar Dy feddwl?

Priosect Menai ag Eleri mewn cydweithdrad  a Gŵyl Arall a Carn.

Eleri Parry
gan Eleri Parry

Be Sydd Ar Dy Feddwl? Cyfle i gymeryd rhan yn brosiect fi a Menai mewn cydweithrediad a Gŵyl (ffor) Arall a Carn. Prosiect sydd yn anelu i gael chi, y cyhoedd i rannu eich meddyliau, atgofion, barnau ag yn y blaen gyda ni (yn ddienw) fydd wedyn yn cael ei wneud i mewn i ffilm fer. Mi fyddwn ni yn postio prompts i chi yn y dyddiau nesaf ond croeso i chi yrru beth bynnag ydych eisiau! Gallai fod yn nodyn wedi’i ysgrifennu â llaw, braslun, paragraff, recordiadau sain llais. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd! Yn ddelfrydol o dan 50 gair a recordiadau llai na munud! Y Dyddiad cau ar gyfer y nodiadau yw’r 15fed o fis Awst. Croeswch yrru nhw i ni ar meddwl20@gmail.com neu DMiwch ni ar ein instagram – @besyddardyfeddwl Edrych ymlaen gael clywed gennych chi! Diolch!