Tlws gan Ann Catrin Evans yn dathlu arwyr Cymru

Tlws gan y gemydd lleol yn dathlu arwyr arbennig Cymru yng nghyfnod Covid

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Bydd rhaglen arbennig Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 ar S4C ar nos Wener, 18 Rhagfyr yn talu teyrnged i arwyr y cyfnod clo.

Ymhlith yr awyr bydd gofalwyr, rhai fu’n gwnïo PPE, y rhai a gasglodd arian i fyrddau iechyd, yn ogystal â’r rhai a gollodd anwyliaid.

Ond mae cysylltiad arbennig â thref Caernarfon, gan mai’r artist lleol, Ann Catrin Evans, sydd yn dylunio’r tlws i anrhydeddu’r arwyr.

Dywedodd swyddfa’r Wasg S4C;

‘Yng nghwmni Elin Fflur ac Owain Tudur Jones fe fyddwn ni’n dweud diolch trwy gyflwyno tlws gan y gof, Ann Catrin, i’n harwyr ar ran S4C a Chymru gyfan.

Mae Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 yn addo deffro’r holl emosiynau – fe fydd y dagrau, y gwenu a’r chwerthin law yn llaw – ond, yr hyn fydd yn aros yn y cof fydd y ‘dewrder’.

Fe fydd sawl wyneb enwog yn ymuno â’r ddathlu gan gynnwys Michael Sheen, Cerys Matthews, Ben Cabango a Geraint Thomas.’

Dywedodd Ann Catrin wrth Caernarfon360;

“Braint oedd cael gwneud y gwobrau i’r rhaglen, sy’n rhoi cyfle i barchu a chymeradwyo dewrder y rhai sy’n mynd tu hwnt er mwyn goresgyn anhawsterau dwys”

Bydd y rhaglen Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 yn cael ei darlledu ar Nos Wener 18 Rhagfyr 9.00, ar S4C.