Trefniadau newydd busnesau Arfon

Sut mae busnesau lleol yn addasu i’r coronafeirws? Diweddariad 23/10/20

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae holl fusnesau’r fro wedi gorfod addasu, ac addasu eto, i ddelio â heriau’r coronafeirws.

Dyma restr ‘fyw’ ddylai fod yn ddefnyddiol i bobol sy’n byw yn ardal Arfon – mae’n cynnwys manylion oriau agor newydd ambell un, a threfniadau cludo rhai eraill. Mae’r rhestr hefyd yn nodi y cwmnïau oedd wedi dechrau addasu, ond sydd bellach wedi gorfod cau yn sgîl Covid-19.

Mae ‘na lawer mwy o fusnesau na hyn ar agor ac yn cynnig gwasanaeth hollbwysig yng Nghaernarfon a’n pentrefi lleol wrth gwrs, felly ewch ati i ychwanegu at y rhestr gyda gwybodaeth o’ch pentre chi.

Crëwch gyfrif (y botwm Ymuno ar dop y sgrîn) a nodwch sylw ar waelod y stori.

Caernarfon

  • O.G. Owen a’i Fab – Yn cludo bwyd o fewn 10 milltir. Archebwch drwy ffonio 01970 611022.
  • Bonta Deli – Polisi drws caeedig. Mae modd archebu dros y ffôn: 01286 671308.
  • Y Gegin Fach – Y caffi wedi cau, ond yn cynnig prydu i fynd rhwng 11-2 bob dydd.
  • Curry Scene – Prydau i fynd yn unig. 01286 669244
  • Fu’s – Gwasanaeth danfon / Bwyd i fynd. 01286 676795
  • Villa Marina – Gwasanaeth danfon / bwyd i fynd. 01286 677290
  • Y Goron – Paratoi prydau i fynd. 01286 669233
  • Bwyd Blasus Yashka – Paratoi prydau i fynd. 07786 678746.
  • Swellies Felinheli – Bwyd i fynd. 01248 670250.
  • Hafan Iechyd – oriau arferol ond yn gofyn i bobol gasglu ei meddyginiaethau o’r feddygfa cyn 5 o’r gloch o hyn allan.

Dyffryn Nantlle

  • Deli’r Banc, Penygroes – Prydau i fynd. 07793 030683
  • Fferyllfa Penygroes – Oriau agor 09:00 – 12:30, 13:30 – 16:30
  • Pant Du – Siop ar-lein ar agor.
  • XL – Bwyd i fynd (Pysgod a sglodion). 01286 880607
  • Penygroes Tandoori – Bwyd i fynd. 01286 882973
  • Beijing House – Bwyd i fynd. 01286 880887
  • Happy Valley – Bwyd i fynd. 01286 880979
  • Pecish – Bwyd i fynd. 01286 238729

Dyffryn Peris a Dyffryn Gwyrfai

  • Gallt y Glyn – Bwyd i fynd, a gwasanaeth danfon ar gael i Lanberis a Nant Peris rhwng 6 a 7 ac i Lanrug a Chwm y Glo rhwng 7-8.
  • Antur Waunfawr – Wedi cau i’r cyhoedd
  • Sopna Pont-rug – Prydau i fynd yn unig. 01286 675222
  • Cigydd Wavells – Dosbarthu cig yn y gymuned leol. 01286 673574.
  • Spice of Llanberis – Bwyd i fynd. 01286 871983

Dyffryn Ogwen

  • Caffi Coed y Brenin, Bethesda – Bwyd i fynd. 01248 602550.
  • Caffi Seren – Bwyd i fynd a gwasanaeth danfon. 01248 600661
  • Quarry Bar and Grill (Ogwen Bank). Bwyd i fynd a gwasanaeth danfon.
  • Sitar Indian – Bwyd i fynd. 01248 602937
  • Shirin’s Indian – Bwyd i fynd. 01248 209772
  • Junction – Bwyd i fynd. 01248 342566
  • Blas Lôn Las, Fferm Moelyci – Bydd y fwydlen tecawê dal ar gael, a fydd y siop dal ar agor. 01248 602 793
  • Mabinogion – Bwyd i fynd, pysgod a sglodion. 07443 895589
  • Fferyllfa Boots, Canolfan Feddygol Yr Hen Orsaf – Oriau Newydd: Dydd Llun i ddydd Gwener: 9:45-12:30 2:30-5:30, Dydd Sadwrn: 9:30-12:30, Dydd Sul: Ar gau.

 

Oes mwy i’w cael? Rhowch wybod yn y sylwadau!