gan
Osian Wyn Owen
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, rhannodd Alana Spencer luniau ohoni’n ymweld â’i siop ddiweddaraf yn Noc Fictoria.
Dywedodd;
“‘Ar lan y môr, mae ‘nghariad inne’.
“Dyma fi yng nghartref newydd sbon Ridiculously Rich By The Seas, ac fedrwn i ddim bod fawr hapusach!”
Mae gan Alana o Aberystwyth siopau yn Aberystwyth, Llandudno a Chaerdydd eisoes. Bydd yn agor ei siop ddiweddaraf yn Noc Fictoria, yn hen siop Celtica.
Daeth Alana i’r brig yn rhaglen deledu’r Apprentice yn 2016, gan ennill buddsoddiad o £250,000 yn ei busnes Ridiculously Rich.
Diolchodd yn fawr i bobol Caernarfon am y croeso hyd yn hyn.