Anrheg Nadolig cynnar i Gaernarfon!

Mae mainc gyfeillgarwch wedi ei chwblhau yng Ngardd Gymunedol Byw’n Iach Arfon ac mae hi’n werth ei gweld!

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Mae Nadolig wedi dod yn fuan i Ardd Gymunedol Arfon yng Nghaernarfon wrth i’r artist lleol, Menai Rowlands, orffen ei gwaith ar y fainc gyfeillgarwch. Bydd y fainc yn cael ei chludo a’i lleoli yn yr ardd synhwyraidd yn y flwyddyn newydd.

Mae’r fainc wedi ei gwneud mewn partneriaeth â sawl grŵp ar draws Gwynedd gyda y gwaith dylunio yn cael ei wneud gan griw Llwybrau Llesiant a Dementia Actif Gwynedd ynghŷd a’r artist. Mae’r ddau grŵp yma wedi chwarae rhan allweddol ers agor yr ardd yn ôl yn yr Haf gan sicrhau fod yr ardd yn edrych ar ei gorau!

Buasem hefyd yn hoffi diolch Alison, Pencampwr Cymunedol Morrisons Caernarfon sydd wedi darfod peintio a varnishio’r cerrig gyda’r grwpiau gwahanol sydd hefyd wedi ei lleoli yn yr ardd. Hefyd diolch i Dylan Humphreys yn ei gosod ar ôl Dolig yn y ardd synhwyraidd.

Mae croeso cynnes i bawb fynd draw i weld y fainc pan fydd wedi ei gosod yn y flwyddyn newydd ac yn sicr y gobaith yw bod y fainc am fod yn fan i annog sgwrs.

Yn ôl Mirain Llwyd, cydlynydd Pontio’r Cenedlaethau Cyngor Gwynedd sydd hefyd ynghlwm â’r prosiect “mae’r fainc yma y 6ed mainc cyfeillgarwch i’w gorffen yng Ngwynedd ac mae’n braf gweld pob un mor unigryw. Y gobaith yw bod y fainc yn symbol o gyfeillgarwch ac yn wahoddiad am sgwrs.”

Buasai Byw’n Iach a’r holl bartneriaid wrth ei boddau yn gweld eich lluniau yn eistedd ar y fainc yn y flwyddyn newydd felly danfonwch eich lluniau at terryowenwilliams@bywniach.cymru neu mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru i rannu’r lluniau gyda ni!