Bardd o Gaernarfon yn cyhoeddi cyfrol

Mae Ifor ap Glyn wedi bod yn brysur ers cyhoeddiad ei gasgliad  diwethaf o farddoniaeth newydd ddeng mlynedd yn ôl 

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Aeth deng mlynedd heibio ers i Ifor ap Glyn gyhoeddi’i gasgliad diwethaf o farddoniaeth newydd, Waliau’n Canu – ond bu’n ddeng mlynedd cynhyrchiol iddo.

 

Cafodd y bardd ei eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, ond mae’n un o drigolion tre’r Cofis ers amser maith, bellach. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999 a 2013, ac ef oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2008 a 2009.

Mae’n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon fel cyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni radio a theledu, ac wedi ennill sawl gwobr BAFTA Cymru am ei waith, gan gynnwys Lleisiau’r Rhyfel Mawr a Popeth yn Gymraeg.

Rhwng Dau Olau yw cyfrol ddiweddaraf y bardd toreithiog, ac un o’r themâu sy’n codi ynddi yw’r cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo fel cenedl. Yn ei gerdd i ddathlu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ugain oed, mae’n sôn iddo fedru uniaethu gyda’r twf a’r datblygiad, gan ddweud ‘deuthum yma’n dad ifanc ddau ddegawd yn ôl’.

Fel bardd cenedlaethol bu’n llysgennad dros yr egni newydd cyffrous hwn, ac mae nifer o gerddi’r casgliad yn llais ac yn llygaid i ni ar deithiau tramor yn China, yr Almaen, Iwerddon a Lithwania.

Mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cynhyrchu cyfres o fideos o amgylch Diwrnod y Llyfr er mwyn dathlu cyhoeddi’r gyfrol. Gallwch glicio yma i wrando ar sgwrs gyda’r bardd, a gallwch glicio yma i wrando ar gerdd o’r gyfrol.

Mae Rhwng Dau Olau ar werth yn awr yn siopau Na-Nôg a Palas Print.