gan
Osian Wyn Owen
Fel rhan o arlwy’r Eisteddfod AmGen eleni, bydd Ifor ap Glyn yn trafod ei gyfrol ddiweddaraf Rhwng Dau Olau.
Yn ôl Gwasg Carreg Gwalch mae yn y gyfrol “gerddi rhyngwladol, a rhai personool, yn ogystal â cherddi rhybuddiol.”
Bydd darlleniadau a fideo-gerddi gan y bardd yn rhan o’r drafodaeth hefyd.
Cynhelir y sesiwn ar wefan a sianel Youtube yr Eisteddfod ar Ddydd Llun Awst 2 am 12:30y.p.
Nid oes angen cofrestru ymlaen llaw.
Mae’r gyfrol ar gael yn eich siop lyfrau Gymraeg leol. Cofiwch am siopau Na-nog a Phalas Print yng Nghaernarfon.