gan
Osian Wyn Owen
I nodi blwyddyn ers y cynhaliwyd protest Mae Bywydau Duon o Bwys ar Faes Caernarfon, dyma gerdd gan Ifor ap Glyn o’i gyfrol ddiweddaraf.
Daeth cannoedd o bobol ynghyd ar Faes Caernarfon flwyddyn i heddiw (14.06.2020) i ddangos eu cefnogaeth i fudiad Mae Bywydau Duon o Bwys (Black Lives Matter.)
Sbardunwyd protestiadau’r llynedd gan lofruddiaeth George Floyd yn Minneapolis.
Cafodd Ifor ap Glyn ei eni a’i fagu yn un o Gymry Llundain, ond mae’n un o drigolion tre’r Cofis ers amser maith, bellach.
Mae’r gerdd ‘Gwyn fy myd?’ yn rhan o’i gyfrol ddiweddaraf Rhwng Dau Olau.