E-bresgreibio yn ysgafnhau’r baich?

Yn ôl rhai, mae’r broses yn hwyluso gwaith meddygon

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
image001

Galw am e-bresgreibio yn Hafan Iechyd, Caernarfon

Proses o arwyddo, anfon, a phrosesu presgripsiynau yn electronig yw e-bresgreibio.

 

Mae nifer yn honni bod y broses yn fwy effeithiol, yn ogystal â honni ei fod yn lleihau llwyth gwaith gweithwyr iechyd, ond mae presgreibio meddyginiaeth, gan fwyaf, yn parhau i ddigwydd ar bapur yng Nghymru.

Mae’r alwad yn arbennig o berthnasol yn dilyn pwysau enfawr a roddwyd ar y gwasanaeth iechyd gan COVID-19.

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod adolygiad annibynnol ar e-bresgreibio wedi’i gynnal yng Nghymru, a’i fod wedi dod i ben ym mis Ebrill.

Mae’n disgwyl i’r broses o gyflwyno e-bresgreibio gael ei chwblhau “o fewn tair i bum mlynedd.”

Yn ddiweddar, aeth Siân Gwenllian draw i bractis Hafan Iechyd yng Nghaernarfon er mwyn ymuno â’r alwad i gyflwyno e-bresgreibio;

“Mae e-bresgreibio yn ffordd synhwyrol iawn o leihau llwyth gwaith sylweddol gweithwyr iechyd.

“Mewn cyfnod sydd wedi bod yn dreth ar feddygon, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leddfu eu baich.

 

“Hoffwn ddiolch i Dr Sioned Enlli a’r tîm yn Hafan Iechyd am yr ymweliad, ac am rannu heriau’r flwyddyn ddiwethaf.”