Mewn sgwrs ynglŷn â’i gyfrol ddiweddaraf Tynnu, mae Aled Jones-Williams yn cyfaddef mai ‘cyfuniad od o Gaernarfon fy mhlentyndod a Blaenau Ffestiniog’ ydi Blaenau Seiont, y dref ddychmygol y mae’r gyfrol wedi ei lleoli.
Ganwyd Aled ym mhentref Llanwnda ger Caernarfon, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Mewn sgwrs am ei gyfrol ddiweddaraf Tynnu mae’n honni bod dylanwad Caernarfon yn drwm ar y dref ddychmygol Blaenau Seiont.
Dywed Aled Jones Williams bod trefi Caernarfon a Blaenau Ffestiniog yn ‘rhoi pafin’ iddo, ac bod ‘siop neu dŷ arbennig’ yn ysbrydoliaeth.
Gyda Covid-19 yn ei anterth ym mis Ionawr 2021, penderfynodd yr awdur toreithiog i roi cynnig ar ysgrifennu storïau byrion byr.
Yn ôl yr awdur;
“Yr amod oedd dim mwy nag awr ’ballu i greu pob un, er y caniateid – gan bwy? – newidiadau bychain ond dim byd sylweddol wedi hynny. Ar y cyfan, mwy neu lai, cedwais at hynny.
Fe’u hysgrifennwyd yn ddyddiol gydol Ionawr ac i mewn i Chwefror. Pan oedd y pla ei hun yn gwthio pawb i’r hanfodol, i’r ‘byr’ mewn geiriau eraill…”
Gallwch wylio’r sgwrs drwy ddilyn y ddolen hon.
Mae’r gyfrol ar gael yn siopau llyfrau Caernarfon, Na Nog a Phalas Print, ac mae’n costio £7.50.