Camerâu i Twthill

Mae Camerâu Cylch Cyfyng wedi eu gosod yn ardal Twthill

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd

Yn sgil rhai enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar, mae camerâu cylch cyfyng wedi eu gosod yn ardal Twthill.

Gosodwyd y camerâu gan Gyngor Gwynedd ar y Sgwâr ac ar waelod Stryd Elinor.

Mae Ioan Thomas, y Cynghorydd Sir dros Twthill wedi ymateb;

“Dwi wedi bod yn ceisio sicrhau gosod camerâu yn ardal Twtil ers cryn amser.

“Dwi’n hynod o falch fod cyfle wedi dod i osod camerâu yn Sgwâr Twtil a Stryd Elinor fel rhan o’r gwaith uwchraddio camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn y dre.”