Cau cangen Barclays Caernarfon?

“Ailystyriwch” medd AS lleol

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Hywel-Williams-Plaid-CymruPlaid Cymru

Mae AS Arfon wedi galw ar Barclays i ailystyried cau eu cangen yng Nghaernarfon.

Mae’r banc yn bwriadu cau’r gangen yng nghanol Caernarfon ar 18 Chwefror 2022, ond mae’r Aelod Seneddol lleol wedi annog y banc i ailystyried eu penderfyniad.

Mewn llythyr at Brif Swyddog Gweithredol Barclays, C. S. Venkatakrishnan, dywedodd Mr Williams fod y gangen wedi bod yn “adnodd hanfodol i’r dref” ers amser maith sy’n darparu “gwasanaethau bancio hanfodol i gymunedau a busnesau lleol.”

Mae’r AS wedi honno bod y pandemig wedi “tanlinellu pwysigrwydd gwasanaethau lleol”, yn enwedig i bobl leol sy’n dioddef “diffyg mynediad at fand eang mewn ardaloedd gwledig.”

Dywedodd hefyd y byddai cau’r gangen yn effeithio’n arbennig ar bobl hŷn.

Bydd cwsmeriaid yn ardal Caernarfon sy’n dymuno parhau i ddefnyddio gwasanaethau wyneb-yn-wyneb yn cael eu gorfodi i newid banc neu deithio 9 milltir i’r gangen Barclays agosaf ym Mangor.

Mae Barclays wedi cyhoeddi bod naw deg wyth o gwsmeriaid yn bancio gyda changen Caernarfon ar hyn o bryd.

Mae’r AS lleol wedi galw ar Mr Venkatakrishnan i ailystyried penderfyniad a fyddai’n “ergyd ddinistriol i gymunedau lleol.”