Ail-enwi Plas Menai

Mae Canolfan Awyr Agored Plas Menai wedi cael ei hail-enwi i anrhydeddu gwaith Ken Newing.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Plas Menai, y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ar gyrion Caernarfon wedi cael ei hailenwi dros dro yn Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Ken Newing, er mwyn anrhydeddu gwaith gwirfoddolwr lleol.

Mae Ken Newing, 70, wedi bod yn weithgar gyda Chlwb Hwylio’r Felinheli ers 40 mlynedd. Er iddo orfod ymneilltuo yn ystod y pandemig am resymau iechyd, bu’n trefnu rhaglenni e-hwylio ac anogodd aelodau’r clwb i rannu eu straeon personol am hwylio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae newid enwau canolfanau chwaraeon yn digwydd ar draws y DU. 

Daw’r newidiadau yn dilyn canfyddiadau astudiaeth ddiweddar ledled y DU a gomisiynwyd gan y Loteri Genedlaethol, sy’n dangos bod dwy ran o dair o gefnogwyr chwaraeon yng Nghymru (63%) yn dweud bod y pandemig wedi cynyddu eu hangerdd at chwaraeon a’u gwerthfawrogiad o hamdden. 

Yn ogystal, mae dros draean (38%) yn credu y dylai 2020 fod yn flwyddyn i ddathlu pencampwyr chwaraeon cymunedol yn yr un ffordd yr ydym yn dathlu chwaraewyr proffesiynol.


Wrth ymateb, dywedodd Ken bod y clwb ‘fel aelod o’i deulu’, ac ei fod, yn ystod yr haf ‘yn tueddu i fyw yn yr awyr agored, yn enwedig yn y clwb hwylio.


Ymatebodd Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli’r ardal yn y Senedd;


“Rwy’n falch iawn o weld Ken yn derbyn yr anrhydedd hon.


“Rydym yn ffodus iawn o’n pencampwyr cymunedol yn Arfon, ac mae’r gwaith y mae’r gwirfoddolwyr chwaraeon lleol yn ei wneud yn amhrisiadwy wrth gyfoethogi profiadau bywyd, yn ogystal â chefnogi lles ac iechyd meddwl.


“Llongyfarchiadau, a diolch Ken!”