Casgliad i ddioddefwyr Afghanistan yn siop O Law i Law

Mae Pobl i Bobl bellach yn cymryd cyfraniadau yn y siop yng Nghaernarfon

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae siop O Law i Law yng Nghaernarfon bellach yn derbyn cyfraniadau ar gyfer dioddefwyr yn Afghanistan sydd wedi eu dal yng nghanol y trafferthion yn y wlad.

Derbynir y cyfraniadau ar ran ymgyrch Pobl i Bobl. Sefydlwyd Pobl i Bobl gan wirfoddolwyr llawr gwlad yng Ngogledd Orllewin Cymru er mwyn ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid yn 2015.

Bydd yr ymgyrch yn derbyn cyfraniadau o stwff ymolchi (e.e. shampŵ) yn siop O Law i Law (yr hen Holland and Barrets) ar Stryd Llyn tan ’fory.

Dweud eich dweud