Tŷ Castell yn ran o brosiect newydd Llwyddo’n Lleol

Cynllun newydd wedi ei redeg gan Llwyddo’n Lleol, Menter Môn i gyflogi a hyfforddi pobl ifanc yn y maes marchnata, wrth iddynt weithio gyda busnesau lleol.  

Cadi Roberts
gan Cadi Roberts
swyddogion-stori

Dyma’r 10 o bobl ifanc sydd yn derbyn yr hyfforddiant.

Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050, Menter Môn wedi rhoi’r cyfle i 10 o bobl ifanc ar draws Gwynedd a Môn i dderbyn hyfforddiant marchnata am 10 wythnos o dan oruchwyliaeth Beth Woodhouse o Marketshed – mae gan Beth 10 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y byd marchnata ac yn rhedeg y cwmni yn annibynnol yma yng Ngogledd Cymru ar ôl ei sefydlu yn 2020.

Wrth dderbyn yr hyfforddiant rydw i a’r 9 o bobl ifanc eraill yn cydweithio gyda busnesau lleol yn eu helpu i ddatblygu eu cynlluniau marchnata er mwyn hyrwyddo eu cwmnïau a’u busnesau yn llwyddiannus.

Erbyn hyn mi rydym ni ar ein pedwaredd wythnos, a’r busnes yr ydwyf i wedi bod yn cydweithio gydag yw Tŷ Castell (https://www.tycastell.cymru/).

Mae Tŷ Castell yn fwyty tapas yng Nghaernarfon, sydd yr wythnos hon wedi rhyddhau bwydlen goctel newydd sbon gyda dewis o 9 coctel. Dros y chwe wythnos nesaf byddaf nid yn unig yn helpu i farchnata’r bwyty tapas, ond hefyd eu hystafelloedd aros en-suite moethus sydd wedi eu lleoli uwchben y bwyty.

Mae’n gyfle gwych i gwmni annibynnol fel Tŷ Castell dderbyn y cymorth hwn i ehangu eu busnes, yn enwedig ar ôl cyfnod anodd tawel ac ansefydlog i fusnesau lletygarwch o ganlyniad i bandemig covid – 19 dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

Nid yn unig yw’r profiad hwn yn fanteisiol i’r cwmnïau sydd ynghlwm â’r cynllun, ond hefyd i ni’r bobl ifanc sydd yn derbyn yr hyfforddiant. Mae’n gyfle i ni ddatblygu sgiliau cyfathrebu a marchnata ar lefel broffesiynol, o dan oruchwyliaeth Beth a Llwyddo’n Lleol, ac fe hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt hwy, am roi’r cyfle yma i ni dros yr haf.

I ddilyn ein siwrne, dilynwch Llwyddo’n Lleol 2050 ar eu cyfryngau cymdeithasol https://www.facebook.com/Llwyddon-Lleol-2050-111221147002339/