Cawr y Cofis Gareth Edwards yn gadael y clwb ar ôl saith tymor

Capten Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn penderfynu gadael y clwb

gan Jordan Thomas
Caernarfon-town-take-2

Ar ôl 7 mlynedd wych yn Yr Oval, mae capten Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon, Gareth Edwards wedi penderfynu gadael y clwb. Fe orffennodd ei yrfa gyda y Cofis yn y gêm derfynol yn y gemau ail gyfle yn erbyn Y Drenewydd lle fu ei dîm golli 5-3 mewn gêm fythgofiadwy cyn iddo gyhoeddi mai honno oedd ei gêm olaf ar ran y clwb

Fe ymunodd Edwards i Gaernarfon yn 2014 tra oedd y clwb yn yr ail haen, tra oedd Lee Dixon yn rheolwr ar y clwb. Dros ei amser yng Nghaernarfon, mae’r clwb wedi datblygu o nerth i nerth ac mae Edwards wedi bod yn allweddol yn adeiladu Caernarfon fel clwb uchel ei barch yn y JD Cymru Premier.

Dros ei amser ar Yr Oval, enillodd Edwards nifer o dlysau gyda’r clwb gan gynnwys ennill dyrchafiad gyda y Cofis yn 2017-18 a hefyd cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru yn yr un tymor. Yn nhymor gyntaf Caernarfon nol yn yr uwch gynghrair, fe orffennodd y clwb yn y chwech uchaf a gem gofiadwy i Edwards yn y tymor yna oedd y gêm Cwpan Cymru ar Stadiwm Nantporth pan drechwyd Bangor gyda’r amddiffynnwr yn sgorio dau gôl er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth.

Fe ddaeth yr amddiffynnwr mawr yn gapten ar y clwb ar gyfer tymor 2019-20 ac er i’r tymor cael ei dorri yn fyr oherwydd y pandemig, o dan arweiniad Edwards, fe lwydodd y clwb gyrraedd y chwech uchaf am yr ail dro yn olynol.

Fe soniodd Edwards cyn tymor 2020-21 mai efallai hwn fydd ei dymor olaf fel rhan o garfan y Cofis. O dan Huw Griffiths, roedd Edwards yn un o’r enwau cyntaf yn y tîm a drwy ei arweiniad, cafwyd tymor gwerth chweil arall i Gaernarfon. Er i’r tîm fethu eu cefnogwyr drwy’r tymor, roedd ei hysbryd yn annog y chwaraewyr drwy’r tymor.

Yn nhymor olaf Edwards, fe orffennodd y tîm yn chweched a sicrhau lle yn y gemau ail gyfle, ac ar ôl iddynt guro Barri ym Mharc Jenner, fe ddaeth y foment i’r amddiffynnwr orffen ei yrfa ar Yr Oval yn y rownd derfynol erbyn Y Drenewydd. Yn anffodus, colli oedd hanes Caernarfon ac ychydig ddyddiau wedyn, fe ddywedodd Edwards ei fod yn gadael y clwb ar ôl saith tymor llwyddiannus fel rhan o garfan y Cofis

Yn sicr, fydd dylanwad Gareth Edwards ar Glwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn cael ei gofio gan y cefnogwyr ffyddlon am amser hir. Chwaraeodd yr amddiffynnwr 201 o gemau dros y clwb dros saith tymor gan ennill dyrchafiad gyda’r clwb a’i sefydlu fel un o’r chwech gorau yn y JD Cymru Premier. Yr her rŵan i hyfforddwr Caernarfon, Huw Griffiths yw canfod rhywun all lenwi’r twll mae Edwards wedi ei adael.