Clwb Hoci Caernarfon 

Adran Ieuenctid wedi cael ail-gychwyn!

Clwb Hoci Merched Caernarfon
gan Clwb Hoci Merched Caernarfon

Mae sesiynnau hyfforddi ieuenctid Clwb Hoci Caernarfon wedi ail-ddechrau yn Llanrug. Daeth 65 o blant blynyddoedd ysgol 2-9 yn ol nos Fercher dwytha. Dim ond 5 sesiwn oedd yr aelodau ifanc yma wedi cael ar ddechrau’r tymor ym mis Hydref/ Tachwedd. Roedd eu brwdfrydedd a’r hapusrwydd o gael bod yn ol ar y cae yn amlwg ac aelodau hŷn y Clwb sydd yn gwirfoddoli i redeg y sesiynnau yn falch iawn o gael bod yn ol hefyd. Roedd cael chwarae heb lif oleuadau a mewn tywydd sych yn fonws! Mae cadw at reolau COVID yn allweddol ac, erbyn hyn mae popeth mewn trefn. O ganlyniad, dim ond chwaraewyr sydd wedi eu cofrestru ym mis Medi sydd yn cael dod am y tro.

Mae yna griw o chwaraewyr dawnus hefyd yn yr oedrann 14-18 a mae’r Clwb yng nghanol trefnu gemau cyfeillgar o dan 16 ac o dan 18 ym mis Mai, Mehefin.Wedyn, mi fyddwn yn croesi bysedd y bydd y tim oedolion yn cael dechrau chwarae gemau gystadleuol ym mis Medi. Mae hi ’di bod yn rhy hir…..