Codi Calon Caernarfon

Gwneud Caernarfon360 yn wefan newyddion leol lle nad oes ffasiwn beth â “stori sy’n rhy fach!”

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Caernarfon 360 yn gobeithio dod â chriw lleol at ei gilydd i ddatblygu gwefan newyddion leol, Gymraeg ar gyfer y dref.

Mae cynllun Bro360 yn cael ei disgrifio fel “straeon lleol gan bobl leol ar rwydwaith o wefannau cymunedol.” Mae Caernarfon360 yn bodoli ochr yn ochr â gwefannau cymunedol yn ardaloedd Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Bro Wyddfa, a Tregaron.

Mae Caernarfon 360 yn gobeithio y gall y wefan fod yn llwyfan i newyddion gan bobl Caernarfon, ar gyfer pobl Caernarfon.

Does ’na ddim ffasiwn beth â stori sy’n rhy fach. Rydym yn gobeithio ei datblygu i fod yn wefan newyddion lawr gwlad, sy’n rhannu straeon nad yw llwyfannau newyddion mwy cenedlaethol yn eu rhannu.

Mae’n gyfnod cyffrous iawn ar gyfer cyfryngau annibynnol ledled Cymru, gyda chyhoeddiadau a gwefannau newyddion newydd yn lansio yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn gobeithio bod agwedd leol  ein gwefannau ni yn mynd law yn llaw â’r datblygiadau hyn.

Gall cyfraniadau fod yn ddigwyddiadau lleol, busnesau, marwolaethau, mentrau, straeon chwaraeon, a llawer mwy. Does ’na ddim ffasiwn beth â stori sy’n rhy fach!

Er mwyn i’r wefan lwyddo, mae’n bwysig ei bod yn cael ei rhedeg ar lawr gwlad, a’i bod yn cael ei hyrwyddo gan y bobl sy’n adnabod y dre yn well na neb. Y Cofis eu hunain.

Rydan ni’n cynnal digwyddiad rhithiol i daro tra bod yr haearn yn boeth, ac rydyn ni’n annog trigolion lleol i ddod!

Gallwch chi ddod o hyd i’r digwyddiad trwy glicio ar y ddolen hon.