Coed ’Dolig DIY

Mae Twthill yn g’neud defnydd o’r coed sy’ gynnon ni ’leni 

Grŵp Cymunedol Twthill
gan Grŵp Cymunedol Twthill
267481712_10157974988172587Laura Cameron
265375591_10157974988592587Laura Cameron
265347444_10157974987242587Laura Cameron
267475112_10157974988147587Laura Cameron
265276745_10157974988207587Laura Cameron

Mae cymuned Twthill wedi gwneud defnydd o’r coed sy’ gynnon ni ’leni.

 

Mae’r coed ar Sgwâr Twthill yn ddigon o sioe, ac maen nhw’n goed gwyrdd hefyd, gan fod yr holl drimings yn ail law ac wedi cael eu cyfrannu gan bobol hael Caernarfon a’r ardal.

 

Mi wnaeth Grŵp Cymunedol Twthill alwad agored am hen drimings ’Dolig bythefnos yn ôl, a ’nath pobol Dre ddim siomi! Mi gawson ni lond stafell gefn Twthill Vaults o gyfraniadau, ac mae nhw’n hongian oddi ar y coed sydd ar Sgwâr Twthill.

 

Os cewch chi gyfle yn y dyddia’ nesa, ewch am lwc i Sgwâr Twthill!