Cofis ar y Beic 

Dau ffrind yn cwblhau her beicio dros 100 milltir i gasglu arian i 500 Calon Hosbis Dewi Sant 

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
Ymweld a Siop Elusen Hosbis Dewi Sant ar y ffordd
Alun
Gari yng nghwmni Dafydd
Gari
Gari a Alun yn mwynhau peint ar ôl cwblhau yr her

500 Calon Hosbis Dewi Sant – Tîm Cofisarbeic

Penderfynodd ddau ffrind feicio dros 100 milltir mewn diwrnod i godi arian i Hosbis Dewi Sant i ddiolch am eu gwasanaeth mae gwraig eu ffrind yn ei dderbyn. 

Mae Carolyn Roberts, sydd yn byw yn Mrynrefail, yn wraig i Dafydd, yn cael gofal ysbaid amhrisiadwy gan yr Hosbis. Mae’r teulu yn gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth maent yn ei derbyn.

Fel modd o ddiolch ac er mwyn codi arian i’r Hosbis gwnaeth dau o ffrindiau Dafydd sef Gari ac Alun o Gaernarfon fynd amdani a beicio dros 100 milltir ar ddydd Gwener 11ed Mehefin

Yn teithio o gastell Caernarfon i Fiwmares, Conwy, Dolwyddelan, Harlech, Criccieth cyn dychwelyd nol i Gaernarfon. Dyma Alun yn adrodd hanes y siwrna: 

Cychwyn o Gaernarfon am 7 y bore yn glaw ac cyrraedd Biwmares erbyn 8 gyda’r tywydd yn gwella ac ar ôl cyrradd Conwy roedd yr haul allan a ninnau dal i wenu. Ymlaen wedyn am Betws y Coed a cyfarfod Dafydd am ginio- ‘chips a pus mwsh’ oedd hi er mwyn rhoi nerth i ni erbyn y cymal nesa.
Dringo yn raddol i fyny am Dolwyddelan (pasio hanner ffordd), ac nawr am her i fyny y Crimea, yn y glaw ar niwl unwaith eto, ond y nôd oedd cyrraedd y copa ac wedyn lawr a ni am Blaenau gan edrych ymlaen i gael ‘Belgian Waffle’, hufen iâ a ffrwyth yn Caffi ar y Bont, yng nhwmni Dafydd unwaith eto -blasus iawn.

Rhyw 20 milltir nawr ac ymlaen i Harlech a galw yn Siop Elusennol yr Hosbis yno. Roedd y ddau ohona ni dal i deimlo yn ffyddiog iawn nawr gyda Criccieth i ddod a niferoedd o geir ar y lôn yn cynyddu, ymlaen a ni.

Teithio i fyny o Criccieth am Bryncir ymuno a Lôn Eifion, Pant Glas a 100 milltir wedi cwblhau ac lawr a ni wedyn holl ffordd i Gaernarfon cyn hanner awr wedi saith yr hwyr, ac wedi blino erbyn hyn ond mor falch o gwblhau y her.

Cael peint neu ddau wedyn yn y Clwb Rygbi i ddathlu.

Ein targed oedd casglu £250 ond rydym wedi llwyddo i gasglu dros £1500 hyd yma ac yn dâl i gynyddu. Rydym yn ddiolch mawr i bawb sydd wedi ein cefnogi a gwerthfawrogwn unrhyw gyfraniad allwch ei gyfrannu at elusen leol arbennig. 

Dyma linc i’r wefan: https://stdavidshospice.enthuse.com/pf/cofisarbeic