Côr Dre yn ôl dan do!

Hwn oedd ymarfer cyntaf y côr dan do ers Mawrth 2020

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
241658777_2957952254479267

Llun Seiriol Dawes-Hughes, aelod o’r côr

Mae Côr Dre wedi cyfarfod i ganu dan do am y tro cyntaf ers Mawrth 2020.

Cynhaliwyd y cyfarfod yng Nghapel Salem, Stryd Llyn, 550 o ddyddiau ers eu hymarfer diwethaf.

Penderfynwyd symud yr ymarferion o’r festri i’r capel ei hun er mwyn sicrhau bod modd cynnal pellter cymdeithasol.

Sefydlwyd Côr Dre yn 2007 gan griw o bobol ifanc o’r ardal.

Siaradodd cynrychiolwyr o’r côr â Golwg360 cyn yr ymarfer, a phwysleisio y byddai’r ymarfer yn cael ei gynnal gyda mesuriadau Covid llym, gan gynnwys mygydau, diheintydd, profion tymheredd, a phellter cymdeithasol rhwng cantorion.