Croeso swyddogol y Cofis i Anna Jane!

Hanes gwasanaeth sefydlu y Parchedig Anna Jane Evans yng nghapel Seilo

gan Gwyn Lewis
AJ_Moment-4

Parchedig Anna Jane Evans

Roedd nos Wener, 26 Tachwedd yn noson arbennig o ddathlu yng nghapel Seilo pan ddaeth cynulleidfa dda at ei gilydd – yn y capel ei hun, ar Zoom, ac ar y ffôn – i ddangos cefnogaeth i’r Parchedig Anna Jane Evans wrth iddi gael ei ‘sefydlu’ yn Weinidog ar Eglwys Seilo; Capel y Waun, Waunfawr; ac Eglwys y Berth, Penmaenmawr. Er iddi fod yn hynod weithgar fel Gweinidog yma ers dros flwyddyn a hanner, daeth cyfle o’r diwedd i gynnal gwasanaeth a oedd yn cadarnhau yn swyddogol ei bod hi, bellach, yn Weinidog ‘ffurfiol’ ar y tair eglwys sy’n ffurfio’r Ofalaeth.

Yn ystod y gwasanaeth, soniwyd fwy nag unwaith am ofal arbennig Anna Jane dros bawb yn y gymdeithas – yn arbennig pobol oedrannus, unig a bregus. Mae pawb yn y dre yn gwybod yn iawn am ei hymroddiad diwyro i helpu’r anghenus a’r difreintiedig ar hyd y blynyddoedd – er pan oedd yn gweithio yn Noddfa a Stad Sgubor Goch ac yna wedyn drwy ei gwaith efo Cymorth Cristnogol. Diolchwyd yn ddiffuant iddi am yr hyn y mae hi eisoes wedi’i gyflawni yn Seilo ac yn y dre yn gyffredinol yn ystod y cyfnod anodd sydd wedi bod dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf yn sgil y pandemig, a dymunwyd pob bendith ar ei gweinidogaeth a’i chenhadaeth yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.

Cyfeiriwyd hefyd at ddiweddar daid Anna Jane, y Parchedig Stephen Owen Tudor, a fu’n weinidog ar Eglwys Moreia yma yn y dre o 1935 i 1962, a dyfynnwyd o englynion coffa y Parchedig John Roberts iddo: ‘Dan ei law roedd doniau lu,/ A’i dalent oedd ei deulu.’ Yn y cyd-destun hwn, braf iawn oedd gweld nifer o aelodau’i theulu yn bresennol yn y gwasanaeth i ddangos eu cefnogaeth iddi.

Wrth ymateb i’r croeso a’r dymuniadau da, nododd Anna Jane bod llawer o waith i’w wneud er mwyn gwella amgylchiadau pobl yn ein cymdeithas a rhoddodd wahoddiad ac anogaeth i bawb ohonom ‘fynd allan i weithio’ efo hi yma yn y dre.

Croeso cynnes – ‘swyddogol’ o’r diwedd – Anna Jane!