Cyfarfod Carfan Hoci Cymru

Clwb Hoci Merched Caernarfon yn cael derbyn sesiwn arbennig gan rai o chwaraewyr carfan Hoci Merched Cymru.

Clwb Hoci Merched Caernarfon
gan Clwb Hoci Merched Caernarfon
O Gwmpas Cymru - Hoci Cymru

Fel rhan o’u hymgyrch ‘O Gwmpas Cymru’ mae aelodau carfan Hoci Merched Cymru wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddiant sgiliau a ffitrwydd dros Zoom i glybiau dros Gymru.

Ar nos Fercher, 17eg Mawrth 2021 roedd hi’n braf gweld 30 o ferched o griw Uwchradd a ‘seniors’ Clwb Hoci Merched Caernarfon yn ymuno yn y sesiwn. Roedd cyfle i ofyn cwestiynau i’r chwaraewyr rhyngwladol, Izzy Webb, Emily Rowlands a Livvy Hoskins ac roedd eu hatebion yn rhai ysbrydoledig. Yn sicr roedd y tair yn fodelau rôl anhygoel i’n chwaraewyr ifanc ac yn llawn brwdfrydedd tuag at hoci.

Mae’r ymgyrch ‘O Gwmpas Cymru’ yn rhan o ymdrech Hoci Cymru i godi arian er mwyn cynorthwyo’r merched i fedru cyllido teithiau ag ati ar gyfer gemau rhyngwladol. Mae’r garfan yn anelu am ddyrchafiad ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd eleni yn ogystal â pharatoi am Gemau’r Gymanwlad a gemau cymhwyso Cwpan Hoci’r Byd flwyddyn nesaf. Pob hwyl iddynt!