Cyfnod Clo Ffotograffydd Richard Jones

Richard Jones 

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
Dinas Dinlle
Castell Dolbadarn
Dinas Dinlle

Cyfnod Clo y Ffotograffydd – Richard Jones.

Fel ffotograffydd llawrydd, cyn dyddiau’r cyfnod clo, fy mhrif waith oedd tynnu lluniau priodas.

Hyd at 2019, bum yn ffodus iawn i dynnu lluniau mewn ymhell dros 300 o briodasau, ac mae’n wir i ddweud fy mod wedi mwynhau pob un ohonynt, ac wedi gwneud ffrindiau da yn sgil y gwaith.

Mi ges y cyfle i deithio i bob rhan o’r wlad, o Aberdaron i Gaerdydd, ac o Fodelwyddan i Sir Benfro. Mi wnes i fwynhau gweithio yn Lloegr yn achlysurol hefyd, a thramor gan gynnwys priodas arbennig iawn ar lan y môr yn Galicia, Sbaen.

Erbyn dechrau 2019, ’roeddwn wedi bod yn ceisio ymddeol o’r elfen hon o’r gwaith, ond yn cael fy mherswadio i wneud priodasau ffrindiau a theulu.

Felly, wnaeth dyfodiad y covid a’r clo mawr ddim ond cadarnhau fy mwriad i roi’r gorau i briodasau, ac i ganolbwyntio ar elfennau eraill o ffotograffiaeth.

Gan nad oedd modd teithio unrhyw bellter, bu raid i mi ganolbwyntio ar leoliadau yn agos iawn i gartre, ond, gan fy mod yn byw yng Nghaernarfon, mae digonedd o leoliadau gwych ar gael o fewn ychydig iawn o amser. Dyma rai o fy hoff leoliadau, lle byddaf yn ymweld yn gyson.

Fel y gwelwch, mae’r lleoliadau yma i gyd yn agos iawn i Gaernarfon, a gallwch gyrraedd yno yn sydyn iawn os gwelwch bod y tywydd a’r golau yn ffafriol.

Bellach, gyda’r rheolau yn llacio rywfaint gallwn deithio ychydig ymhellch a mwynhau y lleoliadau gwych sydd yng Nghymru ar gyfer ffotograffiaeth – a cofiwch mai’r camera gorau ydy’r un sydd yn eich llaw – felly cariwch gamera hefo chi rhag ofn y daw cyfle annisgwyl. 

(Holl ddelweddau – Hawlfraint Richard Jones – https://richardj.picfair.com )