Cyfres ‘Stad’ yn chwilio am ecstras

Spin-off o’r gyfres ddrama Tipyn o Stad ydi Stad

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
239437243_10165482158410075

Spin-off o’r gyfres ddrama Tipyn o Stad ydi Stad

Bydd pobol Caernarfon wedi clywed erbyn hyn bod S4C yn comisiynu spin-off o’r gyfres ddrama Tipyn o Stad.

Cyfres ddrama yn rhoi’r chwydd-wydr ar drigolion stâd ddychmygol Maes Menai oedd Tipyn o Stad, gan roi sylw’n benodol i deulu’r Gurkhas sef Carys, Charlie a’u plant Neil, Heather, a Keith. Darlledwyd y gyfres yn wreiddiol rhwng 2002 a 2008.

Bydd y gyfres newydd Stad wedi ei lleoli ar stad tai cyngor yng Nghaernarfon.

Mae’r gyfres bellach yn chwilio am ecstras i ymddangos yn y gyfres. Mae grŵp Facebook wedi ei sefydlu ar gyfer darpar ecstras.

Dylai’r rhai sydd â diddordeb anfon e-bost at aled.ellis@cwmnida.tv efo llun diweddar, eutaldra a’u rhif ffôn.

Bydd y gyfres newydd yn cael ei chynhyrchu a’i ffilmio yn ardal Caernarfon ac yn cael ei storïo a’i sgriptio gan Angharad Elen, Daf Palfrey a Manon Wyn Jones.

Yn ôl Angharad Elen, Cynhyrchydd Datblygu Drama Cwmni Da,

Mae’n fraint cael sgrifennu am gymeriadau y gymuned yma yng Nghaernarfon – a finna wedi cael fy addysg yn y dref, ac yn dal i weithio a byw yn yr ardal.

Yr her ydi dal gafael yn yr hyn a wnaeth y gyfres wreiddiol mor llwyddiannus – yr hiwmor, y cyffro, y cliffhangers – a’i droi yn rhywbeth newydd sy’n teimlo’n ffres ac yn annisgwyl ac yn mynd dan groen y cymeriadau o ddifri.

Hwn fydd ein cynhyrchiad cyntaf ni ar y cyd â Triongl, perthynas sydd wedi blaguro rhyngom yn ddiweddar a rydym ni gyd yn edrych ymlaen yn arw i gydio yn y gwaith.