Cyfweliad: Marged Tudur, bardd Mynd

Cyfweliad gyda bardd y gyfrol Mynd, Marged Tudur.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
2-Marged-Tudur

Marged Tudur, sy’n dod yn wreiddiol o Forfa Nefyn, ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Mae Caernarfon360 wedi bod yn holi Marged Tudur, sy’n dod yn wreiddiol o Forfa Nefyn, ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon.

’Nôl ar ddiwedd 2020, cyhoeddodd Marged ei chyfrol gyntaf o gerddi gyda Gwasg Carreg Gwalch.

Mae’r gyfrol Mynd yn trafod y profiad o golli ei brawd. Mae cerddi’r gyfrol yn ymateb yn uniongyrchol i’r wythnosau cyntaf wedi’r brofedigaeth ac maent hefyd yn trafod y profiad dair blynedd yn ddiweddarach ac yn benodol, yr heriau, yr ofnau a’r rhwystrau sy’n parhau i wynebu rhywun. Mae’r gyfrol yn cynnwys darluniau gan yr artist Elin Lisabeth.

Dyma gyfrol farddoniaeth gyntaf Marged, a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016 gyda rhai o’r cerddi sy’n ymddangos yn y gyfrol.

Oes gen ti hoff gerdd yn Mynd?

Nag oes. A dweud y gwir, dwi’n trio osgoi sbio ar y cerddi erbyn hyn neu mi fyddai’n gweld beiau. Mae pob un o’r cerddi mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, wedi bod o help i mi ar gyfnodau gwahanol ac roedd gan bob cyfnod ei stori ei hun.

Oes ’na gerdd wedi ei gosod yng Nghaernarfon?

Mae ’na gerdd o’r enw ‘Tywallt’ sydd wedi ei gosod yn y tŷ ro’n i’n byw ynddo yng Nghei Banc efo fy ffrind, Anest. Caryl, cyfnither Anest, ydi canolbwynt y gerdd. Os dwi’n cofio’n iawn, ar ein noson gyntaf yn y tŷ, mi ddaeth ’na griw draw ac mi aethon ni allan rownd dre. Mi gysgodd Caryl ar y soffa’r noson honno ac am fod y gegin a’r stafell fyw yn un stafell, y fi oedd yr un ddaru ei deffro hi yn y bore a hynny wrth ferwi teciall ac estyn mygiau! Mae’r gerdd yn sôn am y sgwrs gafodd Caryl a finnau dros sawl paned y bore hwnnw.

Oedd sgwennu Mynd yn therapi?

Oedd, er ella nad o’n i’n sylwi hynny ar y pryd. Mi wnes i sgwennu llawer o’r cerddi yma fel rhan o bortffolio y cwrs sgwennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, felly gorfodaeth oedd sgwennu nhw i ddechrau. Erbyn hyn, mae’n amlwg i mi fod sgwennu wedi fy helpu i drio gwneud synnwyr o bethau.

Oes gen ti hoff gyfrol o farddoniaeth?

Mae’r hoff gyfrol yn newid o hyd. Dwi’n licio ailymweld â gwahanol gyfrolau ac weithiau mi fydd ’na gyfrol yn taro tant am ei bod hi’n cyd-fynd â fy hwyliau neu yn trafod rhyw brofiad neu deimlad sy’n gwbl fyw i mi yn y cyfnod darllen hwnnw. Dyna sy’n dda mewn cyfrol o gerddi, mi fedr rhywun ddarllen cerdd mewn chydig eiliadau ac o fewn yr eiliadau hynny mae ’na fyd cyfan wedi agor. Mi fyddai’n aml yn troi at gyfrol Caryl Bryn, Hwn ydy’r llais, tybad? a Siarad Siafins gan Mari George a chyfrolau Iwan Llwyd, T. H. Parry-Williams a Rhys Iorwerth – dwi’n lwcus mod i yn yr un tîm Talwrn â Rhys. Dwi’n dysgu ac elwa llawer o’i gyngor a’i arweiniad.

Mae Noethni a Jazz yn y Nos gan Steve Eaves yn gyfrolau dwi wedi troi atyn nhw dro ar ôl tro hefyd. Mi wnes waith ymchwil ar eiriau caneuon yn rhan o’m doethuriaeth a dwi wastad wedi gwerthfawrogi’r ffordd mae geiriau yn cael eu trosglwyddo drwy gân. Ac efallai nad ydi albyms Steve Eaves yn ‘gyfrolau’ yn ystyr traddodiadol y gair ond dwi’n clywed barddoniaeth yng ngeiriau ei ganeuon.

Beth/Pwy oedda chdi’n mwynhau ei ddarllen fel plentyn?

Nofelau Elizabeth Watkin Jones. A finnau wedi fy magu ym Morfa Nefyn, efo gwallt coch, ac yn hogan oedd wastad yn chwilio am antur a gyda dau frawd o’r un enwau â chymeriadau’r gyfrol – tydi’n fawr o syndod mod i wedi dychmygu mai fi oedd Luned Bengoch!

Gallwch wylio lansiad Mynd drwy ddilyn y ddolen hon, sy’n cynnwys sgwrs rhwng Marged Tudur ac un arall o feridd Caernarfon, Rhys Iorwerth.

Mae’r gyfrol Mynd gan Marged Tudur ar gael o Na-nôg, Caernarfon, neu o Palas Print.