Cylch Meithrin Twtil yn chwilio am Arweinydd

Oes gen ti ddiddordeb?

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Cylch Meithrin Twtil wedi cyhoeddi eu bod yn chwilio am arweinydd ar gyfer y Cylch.

Mae’r hysbyseb swydd yn nodi bod disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael cymhwyster NVQ lefel 3 neu uwch.

Mae angen i’r ymgeisydd fod yn rhugl yn y Gymraeg hefyd.

Cynigir tâl o £10 yr awr am 20 awr o waith yr wythnos.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb anfon neges Facebook breifat i Gylch Meithrin Twtil.