gan
Osian Wyn Owen
Mae criw gwirfoddolwyr siop O Law i Law wedi cyhoeddi y bydd bwyd y cynllun FareShare yn cael ei rannu o’r siop newydd sbon ar Stryd Llyn, cyn bo hir.
Mae’r gwirfoddolwyr wedi rhannu lluniau o’r gwaith yn mynd yn ei flaen ar y siop yn 14 Stryd Llyn.
Mae Cyngor Tref Caernarfon wedi llwyddo i gael grant gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru i sefydlu hwb yng nghanol y dref ar gyfer cyfnewid, dosbarthu, rhannu, ailddefnyddio, ailgylchu a thrwsio dillad, bwyd, offer trydanol a dodrefn.
Bydd y siop yn cael ei defnyddio fel cartref i’r cynllun Foodshare hefyd.