Cynnig Menter Ty’n Llan wedi ei dderbyn

Mae Menter Ty’n Llan, Llandwrog wedi cyhoeddi bod y cynnig wedi ei dderbyn.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Menter Ty’n Llan, Llandwrog wedi cyhoeddi bod cynnig y gymuned i brynu’n dafarn wedi ei dderbyn, ac mae’r broses o brynu’r dafarn wedi cychwyn. Maent wedi cadarnhau hefyd y bydd modd prynu cyfranddaliadau yn fuan iawn.

Er mwyn dilyn hynt y fenter gymunedol, dilynwch y ddolen hon.