Dadorchuddio blaen siop O Law i Law

Arwyddair y siop yw ‘gan y gymuned i’r gymuned’

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
235678037_10157971474816786

Wedi ei gynnwys gyda chaniatâd Eleri Løvgreen

Mae’r criw sydd ynghlwm â menter O Law i Law yng Nghaernarfon wedi rhannu lluniau o hen siop Holland and Barret ar ei newydd wedd.

Rhannwyd y llun gan ddiolch i Designer Signs am osod yr arwydd ac i Dafydd Owain am ddylunio’r logo.

Ffrwyth llafur Cyngor Tref Caernarfon ydi’r siop, wedi iddynt sicrhau grant i greu hwb cymunedol ar gyfer trwsio ac ail-ddefnyddio nwyddau yng nghanol tre Caernarfon.

Daeth y grant gan Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21 Llywodraeth Cymru.

Mae’r fenter yn cael ei sefydlu ar ôl blwyddyn a mwy o gydweithio sylweddol gan grwpiau cymunedol er lles y dre, gan gynnwys cynllun Porthi Pawb, cynllun Porthi Plantos, a chynllun Porthi Plantos – Dillad