Dafydd Iwan yn lansio cyfrol newydd

Bydd Dafydd Iwan, sydd yn byw ym Montnewydd, yn lansio ei gyfrol yn rhithiol

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Rhywle-fel-Hyn

Mae rhai o ganeuon Dafydd Iwan yn anthemau bellach. Fe’u clywyd mewn man mor annisgwyl â maes y gad yn Kosovo. Yn ei ganeuon gwleidyddol, mae’n parhau swyddogaeth yr hen faledwyr stryd a ffair. Mae rhai o’i ganeuon serch bellach yn ganeuon gwerin ein hoes. Yn ei ganeuon dychan, mae’n pontio Jac Glan y Gors a Harri Webb. Mae’n oesol ac yn gyfoes yr un pryd.

Yn y gyfrol hon mae’n datgelu’r hanesion y tu ôl i gyfansoddi nifer o’i ganeuon, rhai’n adnabyddus, eraill yn llai cyfarwydd, ac nid yw’n hepgor ambell awr ddu yn ei fywyd. Mae’i onestrwydd yn disgleirio drwy’r cyfan. O bori drwy’r penodau dadlennol hyn cewch ail-fyw’r caneuon yn ogystal â darllen rhwng y llinellau.

Dywedodd Dafydd ei hun;

“Rwyf fi wedi cael cyfle mewn ambell i gyfrol arall i sȏn am gefndir rhai o ‘nghaneuon, ond fy mwriad yn y gyfrol fach hon yw ceisio gosod rhai o fy nghaneuon (gan gynnwys rhai llai adnabyddus) yn eu cyd-destun, a cheisio tynnu ohonyn nhw gymaint ag y medraf o wybodaeth am brofiadau fy mywyd, ac am Gymru a’r byd a’u pobol, gan obeithio y bydd yr atgofion a’r sylwadau o ddiddordeb i rywun yn rhywle.”

Mae Rhywle fel Hyn ar werth yn eich siop lyfrau Cymraeg leol.

Bydd yn cael ei lansio yn rhithiol ddydd Mawrth, Mehefin 15 am 19:00. Cliciwch yma i fynychu am ddim.