Dathlu llwyddiannau lleol pobl ifanc 

Hanes llwyddiant pobl ifanc Gwynedd a Môn

Catrin Lois
gan Catrin Lois
Llun-Swig-Tomos

Mae prosiect unigryw sy’n rhoi hwb i pobl ifanc wrth iddynt fentro i fyd gwaith a busnes am longyfarch y criw diweddaraf i gwblhau eu cyfnod ar y cynllun.

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei redeg gan Menter Môn.  Y nod yw herio’r dybiaeth fod rhaid gadael ardal wledig i lwyddo gan ddangos i bobl ifanc sy’n ystyried eu dyfodol bod cyfleodd ar gael yn eu cymunedau eu hunain. Mae 35 eisoes wedi cael cefnogaeth drwy’r cynllun – nifer wedi mynd ymlaen i sefydlu busnesau llwyddiannus neu wedi cael swyddi parhaol yn yr ardal.

Mae’r pwyslais ar entrepreneuriaeth, cyflogadwyedd, a datblygu sgiliau proffesiynol. Ond, gyda blaenoriaethau wedi newid yn sgil Covid19 mae neges glir hefyd bod ffordd o fyw yn bwysig a bod hon yn ardal ddelfrydol i sicrhau’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Jade Owen, yw swyddog y prosiect gyda Menter Môn, mae wedi bod yn gweithio a chefnogi’r criw sydd wedi bod yn rhan o Llwyddo’n Lleol 2050 hyd yma. Dywedodd: “Yn rhy aml mae’n pobl ifanc yn meddwl bod rhaid iddyn nhw adael eu milltir sgwâr i lwyddo ym myd gwaith neu fusnes. Mae hyn yn gymaint o golled i’n cymunedau gwledig ni ac mae’r sgil effaith mae hynny’n ei gael ar y Gymraeg a’r economi yn sylweddol.

“Ein neges ni drwy Llwyddo’n Lleol yn syml ydi – bod llawer o gyfleodd ar gael yma yng ngogledd Cymru. Rydan ni yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i unigolion sy’n awyddus i droi syniad busnes yn gwmni proffidiol neu help i wella sgiliau trwy drefnu lleoliadau gwaith a hyfforddiant.”

Un o’r criw wnaeth gymryd rhan yn Llwyddo’n Lleol yn gynharach eleni yw Lois Hughes. Wedi astudio BSL a gweld nad oedd adnoddau Cymraeg ar gael aeth ati i geisio newid hyn a sefydlu busnes ‘Arwyddo’, gyda help y cynllun. Wrth annog pobl ifanc eraill i gymryd y naid dywedodd: “Mae Llwyddo’n Lleol wedi galluogi i fi droi syniad yn fy mhen i mewn i realiti – heb y cynllun ma’n siŵr na dal yn fy mhen fydda’r syniad. Ond mae wedi rhoi hyder a chymhelliant i fi symud ymlaen i gymryd y cam cyntaf.”

Yn fwy diweddar mae’r cynllun wedi rhedeg rhaglen ‘Swyddogion Stori’ gyda 10 person yn derbyn hyfforddiant marchnata gan Beth Woodhouse o gwmni Marketshed. Tra’n datblygu sgiliau a phrofiad y bobl ifanc cafodd 19 o fusnesau lleol hefyd fanteisio ar gefnogaeth marchnata am ddim.

Mae Sioned Morgan yn gyfarwyddwr prosiectau gyda Menter Môn. Mae’n egluro pam bod y cynllun hwn mor bwysig i’r sefydliad: “Fel cwmni mae hyrwyddo cyfleodd lleol yn greiddiol i’n gweledigaeth ni ac mae ceisio sicrhau bod y cyfleodd hynny ar gael i’n pobl ifanc yn hynod o bwysig ac yn gyrru llawer iawn o’n prosiectau. Rydan ni ein hunain yn cyflogi nifer sy’n cychwyn ar eu gyrfa ac am ledaenu’r genhadaeth yma i gwmnïau a busnesau eraill yn yr ardal fel ein bod ni’n cadw talent yn lleol er budd ein cymunedau, yr economi a’r Gymraeg.”

Dros y misoedd nesaf bydd Llwyddo’n Lleol 2050 yn galw ar bobl ifanc o Wynedd a Môn eto i gofrestru er mwyn manteisio ar gyfle newydd i gael cymorth wrth fentro i fyd gwaith. Bydd rhaglenni nesaf y cynllun yn cael eu rhannu Facebook ac Instagram.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa Arfor a Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae hefyd wedi ei ariannu’n rhannol gan Cyngor Gwynedd, yr NDA ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

I ddysgu mwy ac i gofrestru diddordeb mae Menter Môn am annog pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy’n wreiddiol o ardal Môn a Gwynedd i gysylltu gyda Jade Owen ar jade@mentermon.com a dilyn tudalennau’r cynllun ar y cyfryngau cymdeithasol.