Côr Dre yn ail-ddechrau ymarfer

Mae’r côr yn ail-ddechrau ymarfer ar ôl yr haf

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Ddydd Iau yma bydd Côr Dre yn ail-ddechrau ymarfer ar ôl seibiant dros yr haf.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r côr wedi galw ar ddarpar aelodau newydd i ymuno â’r côr.

Ffansi canu? Ffansi cymdeithasu? Ffansi ymuno â Chôr Dre?

‘Da ni’n dechrau ymarfer nôl nos Iau 9fed o Fedi 2021

Croeso cynnes iawn i unrhyw un ddod aton ni i ganu!

Mae’r côr yn ymarfer ar nosweithiau Iau am 7:30 yng Nghapel Salem, Caernarfon.

Hoffwch dudalen Facebook Côr Dre i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.