Disgyblion Syr Hugh Owen yn trawsnewid gardd Plas Maesincla!

Yn ystod yr wythnosau olaf cyn gwyliau’r haf bu i griw o ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen weithio’n galed yn trawsnewid gardd Plas Maesincla. 

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Mae criw o ddisgyblion Ysgol Syr Hugh Owen wedi bod yn gweithio’n hynod o galed yn yr wythnosau olaf cyn gwyliau’r haf a hynny’n rhoi ail fywyd i ardd Plas Maesincla. Trwy gyd-weithio gyda Chynllun Pontio’r Cenedlaethau a Gwasanaeth Ieuenctid, Cyngor Gwynedd mae’r ardd wedi’i ei thrawsnewid i fod yn llawn lliw. Derbyniwyd cymorth a rhoddion hael gan Allison, Pencampwr Cymunedol Morrisons Caernarfon.

“Mae wedi bod yn gyfnod lle rydym wedi bod arwahân ond roedd y prosiect hwn yn gyfle euraidd i bontio’r cyswllt rhwng yr ysgol a’r cartref. Roedd brwdfrydedd y disgyblion yn amhrisiadwy a gwên fawr ar wyneb y ddwy genhedlaeth wrth weld y gwaith yn cael ei wneud.”

Mirain Llwyd Roberts, Cydlynydd Pontio’r Cenedlaethau, Cyngor Gwynedd. 

Aethom draw yn wythnos gyntaf i gael cyfle i rannu syniadau a’r trigolion oll yn mwynhau cael gweld y disgyblion yn rhannu llwyth o syniadau am sut y gallwn wneud trawsnewidiad. Yr wythnosau i ddilyn roedd hi’n amser i dorchi llewys ac yn sicr dyna wnaeth pob un o’r criw.

Aeth pawb ati i ail blannu yn y potiau o amgylch yr ardd ac i wneud border o flodau – erbyn diwedd y cyfnod o weithio’n galed roedd yr ardd yn werth ei gweld.

“Roedd y cynllun hwn yn gyfle arbennig i’r disgyblion gael gwneud gwaith tu allan i amgylchedd yr ysgol a hynny trwy gymryd rhan mewn prosiect mor werthfawr.”

Chris Hanks, Athrawes yn Ysgol Syr Hugh Owen

Gyda phrosiectau pontio’r cenedlaethau ddim yn cael digwydd fel yr arfer ar hyn o bryd roedd y prosiect hwn yn un arbennig ac yn pontio disgyblion Syr Hugh Owen a Phlas Maesincla. Ar ddiwedd y sesiwn olaf cafodd y disgyblion hufen iâ i’w fwynhau yn yr haul fel diolch gan bawb ym Mhlas Maesincla.

Y gobaith yw parhau’r berthynas pan fydd y flwyddyn addysgol nesaf yn cychwyn.