Diwrnod newydd i ddathlu busnesau bach yng Nghymru

Dydd Gwener hwn y 19eg o Dachwedd cewch nodi dathliad blynyddol newydd i’ch dyddiaduron, sef Diwrnod Busnesau Bach Cymru!

Sioned Young
gan Sioned Young
Diwrnod Busnesau Bach Cymru

Dydd Gwener hwn y 19eg o Dachwedd cewch roi dathliad blynyddol newydd yn eich dyddiaduron, sef Diwrnod Busnesau Bach Cymru!

Mae’r diwrnod, sydd wedi’i sefydlu am y tro cyntaf eleni gan Caryl Owen o Gaernarfon a’r tîm yn gofod.space a busnesaubach.cymru, yn gyfle arbennig i ddathlu busnesau bach ledled Cymru.

Mi wnaethom ni’n bwrpasol dewis y dyddiad hwn gan ei fod wythnos cyn yr enwog Dydd Gwener Du (Black Friday),” meddai Caryl. “Gyda’r Nadolig ar y gweill mae hi’n fwy pwysig nac erioed i annog pobl i brynu a gwario eu harian yn lleol drwy gefnogi busnesau bach yng Nghymru.”

Fel rhan o’r dathliadau bydd pennod arbennig o bodlediad Gofod i Drafod yn cael ei gyhoeddi, ynghyd ac ychydig o fideos ar gyfryngau cymdeithasol. Ond mae Caryl yn awyddus i bawb gymryd perchnogaeth o’r digwyddiad.

Mae ‘na groeso mawr i bawb ddathlu’r digwyddiad yn eu ffordd eu hun,” meddai Caryl, “gall hynny fod drwy gymryd rhan yn rhywbeth sydd wedi’i drefnu eisoes, rhannu eich hoff fusnes bach, neu ddewis i siopa’n fach ar y diwrnod.”

Ar y cyfryngau cymdeithasol yn y dyddiau’n arwain at y digwyddiad bydd posib gweld rhai o wynebau cyfarwydd Cymraeg yn rhannu ambell i air am siopa’n lleol a chefnogi busnesau bach.

I hyrwyddo’r digwyddiad a’r buddion o siopa’n lleol a’n fach, caiff pawb eu hannog hefyd i ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodBusnesauBachCymru ar y dydd.

Am wybodaeth bellach o sut allwch chi gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Busnesau Bach Cymru ewch i’w tudalen Instagram, a gwrandewch ar Caryl yn cael ei chyfweld ar raglen Dros Ginio Dewi Llwyd Dydd Gwener ar BBC Radio Cymru.

Bydd Caryl hefyd yn cynnal sesiwn ar Ddiwrnod Busnesau Bach Cymru fel rhan o ddigwyddiad lansio Llyfryn BroNi yn Galeri, Caernarfon i rannu ei harbenigedd o greu cynnwys am fusnesau lleol.

Pa air neu derm sy’n dod i’r meddwl i chi pan ydych yn feddwl am fusnesau bach? Rhowch wybod i ni yn y sylwadau!