Bîp bîp dros annibyniaeth

Yfory bydd grwpiau lleol Yes Cymru yn chwifio’u baneri dros yr A55 am y tro cyntaf ers misoedd.

Dewi Jones
gan Dewi Jones

Cyn y pandemig roedd hi’n gyffredin gweld aelodau Yes Cymru yn chwifio baneri uwchben rhai o lonydd prysuraf yr ardal.

Roedd hyn er mwyn codi ymwybyddoaeth o’u hachos ac er mwyn sbarduno sgyrsiau ymysg pobl. Ond fel llawer o bethau eraill, daeth hyn i ben yn sgîl Covid-19.

Dywedodd e-bost cafodd ei anfon at gefnogwyr y mudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru:

Annwyl gyfaill. Mae’n hen bryd ail afael yn y baneri ’na dros annibyniaeth!

Dydd Sadwrn yma 25.09.21 mi fydd ’na griw ohonom yn chwifio baneri dros annibyniaeth ar y bont sy’n croesi’r A55 ger Talybont, Dyffryn Ogwen. Tyrd atom a chofia ddod a dy faneri hefo chdi.

Mi fydd y criw cyntaf yn cwrdd ar y bont am 9.00 y bore ac yn aros tan 11.00. Bydd ail griw yn dod yno at 11.00 tan 1.00 y pnawn a thrydydd criw yn cychwyn am 1.00 tan 3.00.

Mi fyddai’n wych dy weld yno!

I gyrraedd y bont o gyfeiriad Bangor tyrd ar hyd y ffordd sy’n rhedeg yn erbyn wal Castell Penrhyn i lawr o Landygai. Cymera’r troad i mewn i bentref Talybont a dilyna’r ffordd honno hyd nes byddi yn cyrraedd y bont dros yr A55. Mae ’na lefydd i barcio wrth droi i’r chwith yn union cyn cyrraedd y bont ar ffordd Ponc y Lon. Cod post yr ardal: LL57 3UU, cyfeirnod:SH606703.

Gobeithio y gwelwn ni chi ddydd Sadwrn.

Cofion,

Ifan Llewelyn ar ran Yes Cymru Caernarfon.