gan
Osian Wyn Owen
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad i ystyried cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer rheoli cŵn.
Bwriad yr ymgynghoriad, sydd yn agor heddiw, yw diogelu mannau cyhoeddus.
Mae’r Gorchymyn yn ymwneud â gwahardd cŵn rhag mynd i fannau cyhoeddus gan gynnwys parciau chwarae, traethau penodol, a thiroedd ysgol.
Yn ogystal â hynny, mae’r Gorchymyn yn ymwneud â gorfodi perchennog i glirio neu godi baw ci a chadw ci ar dennyn.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gallwch glicio yma.