Dylanwad Bositif Dafydd Roberts yn Bro Caernarfon

Mae Dafydd Roberts wedi rhoi cyfle i filoedd o blant a phobl ifanc roi cynnig ar rygbi dros y blynyddoedd! ?

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
rygbi12
rygbi1
rygbi11
rygbi10

Mae Dafydd Roberts yn wyneb cyfarwydd ar y Morfa ac i blant a phobl ifanc ar draws ysgolion Cynradd a Uwchradd bro Caernarfon. Yn gyn ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen mae Dafydd yn Swyddog Datblygu Rygbi Ysgolion Caernarfon ers 5 mlwyddyn bellach ac wedi cael dylanwad bositif ar nifer helaeth o blant a phobl ifanc dros y blynyddoedd.

Mae Swyddogion Datblygu Rygbi yn cael ei cyflogi yn rhannol gan Undeb Rygbi Cymru a rhannol gan yr ysgolion sydd yn cydweithio mewn partneriaeth i gynnig cyfleoedd i bawb, yn hyrwyddo a gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc yn yr ardal drwy ymgysylltu gyda rygbi.

Mae Dafydd yn gyfrifol am ddarparu cyfleoedd  rygbi mewn tair ysgol uwchradd sydd yn bwydo chwaraewyr i Glwb Rygbi Caernarfon (Ysgolion Syr Hugh Owen, Dyffryn Nantlle a Brynrefail) a’r holl ysgolion Cynradd sydd yn y dalgylch yn rhoi cyfleoedd rygbi i ferched a bechgyn yr ardal gan obeithio y byddent yn mwynhau gweithgaredd corfforol yn symud ymlaen i ymuno a chwarae i’w clwb rygbi lleol ac i gynrychioli Clwb Rygbi Caernarfon neu hyd yn oed datblygu ymhellach i lefelau uwch.

Yn ei rôl mae Dafydd hefyd yn hyfforddwr bechgyn dan 15 oed Clwb Rygbi Caernarfon a prif hyfforddwr bechgyn Gorllewin RGC dan 15 oed

Yn ychwanegol i hyn mae Dafydd yn trefnu tripiau a Gwersyllau Rygbi rheolaidd, cefnogi digwyddiadau ac ymgyrchoedd Undeb Rygbi Cymru, mynychu cyfarfodydd clwb cyson, hyfforddi a trefnu gemau tîmau ysgolion a clwb ac yn arwain hyfforddiant ac yn datblygu a annog gwirfoddolwyr ifanc i’w gefnogi!

Mae Dafydd wedi tyfu fyny yn dilyn a chwarae rygbi ers iddo fod yn 6 oed ac yn falch iawn ei fod wedi cael profiadau bythgofiadwy.

Mae’n amlwg fel teulu fod rygbi yn rhan mawr o’u bywydau a fod ganddynt meddwl mawr o Glwb Rygbi Caernarfon!

Mae hi yn hollol amlwg fod Dafydd y person perffaith i’r swydd gan ei fod yn mynd tu hwnt i ofynion ei swydd (yn ddistaw bach) i sicrhau fod yr holl ddisgyblion lleol yn cael cynnig yr un cyfleoedd a phrofiadau a gafodd Dafydd yn tyfu fyny.

Mae’n gweithio oriau di ddiwedd, gan amlaf yn oriau anghymdeithasol, nosweithiau a penwythnosau i sicrhau fod bro Caernarfon yn cael profiad positif o rygbi ac mae’n hollol amlwg fod Dafydd yn mwynhau ei swydd gyda ei barodrwydd i ddyfalbarhau.

Mae Dafydd wrth ei fodd yn ‘gweld plant yn mwynhau rygbi, cael profiadau bythgofiadwy a gweld datblygiad a’u cynnydd o ran sgiliau rygbi ac fel unigolion.’

Mae Dafydd wedi llwyddo i gyflawni cyn dipyn mewn amser byr yn ei swydd. Mae niferoedd sydd yn chwarae i dîmau ysgolion yr ardal wedi cynyddu gan godi niferoedd a safon aelodau Clwb Rygbi Caernarfon.

Mae Dafydd yn datblygu, ysbrydoli ac annog ei holl chwaraewyr Uwchradd i wirfoddoli a rhoi yn ôl i’w ysgolion / cymuned ac i ddatblygu ei sgiliau hyfforddi a dyfarnu ei hunain i sicrhau fod arweinwyr i’r dyfodol yn parhau.

Mae Dafydd wedi hyfforddi a cefnogi Tîmau Ysgol Syr Hugh Owen a Brynrefail i ennill Cwpan Rygbi Eryri, mynd a tîm Brynrefail i rownd chwarteri Cwpan Cymru gyda nifer o chwaraewyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli rhanbarth Rygbi Gogledd Cymru (sydd yn dangos bwysigrwydd cyfleoedd llawr gwlad)

Mae’n siwr wedi gwneud y mwyaf o bob cyfle hefyd, datblygu fel hyfforddwr a dyfarnwr, trefnu a mwynhau teithiau i nifer o gemau, mynychu gemau ac ymarferion mewn llefydd fel Stadiwm Principality, Parc yr Arfau, Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol Bro Morgannwg, Parc y Scarlets, ac adra ar y Morfa wrth gwrs!

Yn ogystal a hyn cafodd Dafydd ei wobrwyo yn Swyddog Cenedlaethol Rygbi’r Flwyddyn yn 2019 gan Undeb Rygbi Cymru am ei waith anhygoel i ddatblygiad rygbi bechgyn!

Tipyn o Gamp!

Mewn blwyddyn gall Dafydd fod wedi hyfforddi a rhoi cyfle i dros 1,000 o blant roi cynnig ar rygbi rhwng tîmau bechgyn a merched ysgolion, ysgolion cynradd, clwb Caernarfon a Rhanbarth Rygbi Gogledd Cymru.

Wrth holi Dafydd beth oedd ei hoff beth am y swydd dywedodd ‘mae hi yn braf gallu gweld y datblygiad mewn plant a phobl ifanc a gweld y datblygiad rygbi yn yr ardal.’

Fel un Swyddog yn gyfrifol am ardal Gaernarfon mae Dafydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer ond ychwanegodd Dafydd ‘Mae hi yn gallu bod yn annodd ar adegau i gadw pawb yn hapus a trio sicrhau fod pob plentyn yn pob ardal yn cael cyfle i roi cynnig ar rygbi. Does dim digon o oriau mewn wythnos!’

Mae Dafydd yn un o fil a dwi’n siwr bydd sawl un arall yn cytuno gyda mi fod Clwb Rygbi Caernarfon a’r holl blant a phobl ifanc sydd wedi cael y fraint o fod yng nghwmni Dafydd dros y blynyddoedd yn hynod ddiolchgar am ei wasanaeth i rygbi yng Ngogledd Cymru ac hoffwn gymeryd y cyfle iw LONGYFARCH ar ei swydd newydd!!

Yn mis Ionawr 2022 bydd Dafydd yn cychwyn ei swydd newydd gyda Undeb Rygbi Cymru fel Swyddog Rygbi Gogledd Orllewin Cymru!

Mae Dafydd yn edrych ymlaen i’r sialens nesaf ac am wneud ei orau ‘i gael effaith bositif ar y gêm a chynyddu niferoedd a phrofiadau positif o rygbi yn y rhanbarth.’

Dymunwn Pob Lwc i’r Cofi ar ei siwrna’ ?

Awydd Rhoi Cynnig ar Rygbi?

Clwb Rygbi Caernarfon

Mae oedranau ysgolion cynradd y clwb yn ymarfer ar y Morfa rhwng 6-7 bob nos Wener,

Mae oedran ysgol uwchradd yn ymarfer ar y Morfa bob nos Fawrth rhwng 6-7.

Croeso i unrhyw un ymuno, dim ond dod draw i’r clwb a bydd croeso cynnes gan yr hyfforddwyr.

Mae newyddion am y clwb i gael: ar y wefan http://Caernarfon.clwbrygbi.cymru/

neu cyfryngau cymdeithasol

Facebook – Adran Iau Clwb Rygbi Caernarfon

Instagram – @ClwbRygbiCaernarfon

Twitter – @RygbiCaernarfon