‘Eich Cymuned Eich Dewis’: Y cynllun sy’n “troi arian drwg yn dda”

… Ac mae dau brosiect cymunedol yng Nghaernarfon wedi cyrraedd y rhestr fer

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae cynllun ‘Eich Cymuned Eich Dewis’ yn “rhoi’r penderfyniad yn nwylo’r bobol” o ran pwy fydd yn derbyn arian a atafaelwyd o droseddwyr yn y Gogledd.

Mae hyd at £2,500 ar gael ar gyfer grwpiau ym mhob un o’r chwe sir yng Ngogledd Cymru, a thri grant o hyd at £5,000 ar gyfer trefnwyr sefydliadau sy’n gweithio mewn tair sir neu fwy.

Nod y cynllun, sydd wedi ei drefnu gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a’r Gymuned (PACT) yw i “droi arian drwg yn dda”.

Erbyn hyn, mae’r prosiectau cymunedol sydd wedi cyrraedd y rhestr fer wedi eu cyhoeddi ac mae modd i’r cyhoedd bleidleisio dros eu henillwyr.

Clwb Criced Caernarfon

Yn eu plith, mae prosiect er mwyn atgyweirio cyfleusterau Clwb Criced Caernarfon wedi difrod a achoswyd y llynedd.

Eglurodd Trysorydd y Clwb, Gwyn Williams: “Yn anffodus, diwrnod y clo mawr flwyddyn ddiwethaf, roedd hi’n ddiwrnod cau ysgolion oherwydd Covid-19 ac fe aeth lwyth o blant yno i gael barbeciw,” meddai, “ac yn anffodus, roedden nhw wedi rhoi’r llain ar dân!

“Dydw i ddim yn meddwl medrwn ni chwarae heb atgyweirio’r llain artiffisial… yr unig obaith sydd ganddo ni rŵan, ydi i godi pres er mwyn ei drwsio fo.

Difrod Clwb Criced Caernarfon

Dywedodd bod y gefnogaeth leol wedi bod yn gymorth mawr wedi’r digwyddiad, a’u bod wedi llwyddo i atgyweirio’r CCTV er mwyn atal unrhyw ddifrod pellach yn y dyfodol.

“Mae’r fandaliaeth yn yr ardal yma dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ofnadwy,” meddai.

“Ond dwi’n benderfynol bod ni’n cario ‘mlaen a gobeithio fod pobl yn sylweddoli ein bod ni’n gwneud y gwaith ‘ma er mwyn pobl ifanc yr ardal.

“’Da ni’n trïo ein gorau!”

Hen Fynwent Llanbeblig

Nod un o’r prosiectau eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, yw adnewyddu Mynwent Llanbeblig yng Nghaernarfon – ymgyrch sydd yn agos iawn at galon cydlynydd y prosiect, Keith Jones.

“Roeddwn i yn y fyddin am 23 blynedd,” eglurai “a pan oni yn y fyddin, nes i ddweud wrth fy hun, pan dwi’n dod adref i Gaernarfon, mae hi’n amser i sortio’r hen fynwent yn Llanbeblig.

“Mae ‘na dros 2,500 o feddi yno a 48 o feddi filwyr o’r Rhyfel Byd Cyntaf.

“Mae’r lle fatha jungle – dydi pobol methu mynd yna i roi blodau ar feddi ac oedden ni methu mynd yna fel veterens i roi chware teg i’r milwyr oedd wedi marw.

Mynwent Llanbeblig

Mae criw o wirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n ddygyd i gychwyn ar y gwaith tacluso ond dywedodd Keith Jones bod y brosesu yn un gostus.

“Fyddai’n arian yma’n mynd at gario ’mlaen y gwaith,” meddai, “dim ddim ond y 48 o feddi’r milwyr ond gwneud y fynwent i gyd – a rhoi chwarae teg i bawb.”

Mynwent Llanbeblig

“Troi arian drwg yn dda”

Dyma wythfed flwyddyn cynhelir y cynllun ac yn ystod y cyfnod hwn, dyfarnwyd cyfanswm o £310,000 i 106 o brosiectau amrywiol.

“Rwy’n cael boddhad arbennig bod rhan o’r cyllid yn dod o’r elw o droseddu fel bod arian yn cael ei dynnu allan o bocedi troseddwyr a’u helw anghyfreithlon gan y llysoedd ac yn cael ei roi’n ôl i fentrau cymunedol,” meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Sacha Hatchett.

“Mae’n troi arian drwg yn dda ac mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol gan mai pobl leol sy’n adnabod ac yn deall eu materion lleol a sut i’w datrys.

“Mae plismona’n rhan o’r gymuned ac mae’r gymuned yn rhan o blismona ac mae’r cynllun hwn yn ffordd gadarnhaol o feithrin ymddiriedaeth mewn plismona.

“Mae’n wych gweld y berthynas hon yn ffynnu oherwydd heb y gymuned ni fyddwn yn gwybod beth sy’n digwydd, heb y gymuned ni fyddem yn cael cudd-wybodaeth, ac ni fyddwn yn datrys troseddau.”

Mae modd darllen am yr holl brosiectau sydd ar y rhestr fer, a phleidleisio, drwy glicio’r ddolen hon.