Eich dewis chi ar ddyfodol y ‘flyover’

Holiadur gan Cyngor Gwynedd

gan Elliw Llyr

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i bobl ddewis y defnydd gorau i’r ‘Flyover’ pan fydd y lon newydd wedi ei chwblhau. Mae yna ddau ddewis, sef cadw’r ‘flyover’ neu ei dynnu ei lawr. O’r ddau ddewis yma cewch wedyn ddewis ei gadw fel y mae neu wneud defnydd arall ohono. Os ydych chi’n ffafrio tynnu’r ‘flyover’ i lawr mae dewis i gadw’r rowndabowt fel y mae neu greu rowndabowt newydd.

Ewch draw i lenwi’r holiadur, mae ar gael tan 1 Tachwedd, 2021 i weld y dewisiadau.

Holiadur Cymraeg yma

Holiadur Saesneg yma