Yn ddiweddar mae trigolion (a chyn-drigolion) ardal Twthill wedi bod yn brysur yn rhannu eu hatgofion am y rhan arbennig hon o’r dref. Mae sawl un wedi dweud bod Twthill yn arfer bod fel pentref bach ei hun.
Lai na mis ers sefydlu’r dudalen, mae dros 400 o bobl wedi ymuno, a llawer yn rhannu hen luniau er mwyn procio’r cof. Mae degau o bobl wedi postio i gyfarch eu cyd-aelodau, a rhannu ble maent yn byw erbyn hyn neu ar ba stryd roeddent arfer byw. Ac mae sawl un wedi dysgu mwy am hanes eu cartref.
Un o’r rheiny ydi sefydlydd y grŵp, Osian Owen:
“Ein tŷ ni ar Heol Edward oedd *y* tŷ yn ôl yn y 50au, oherwydd roedd ganddo deledu ac roedd pobl y stryd yn cael dod draw i wylio pob hyn a hyn. Roedd ’na barot yma ar un adeg hefyd, cysylltwch os ydach chi’n cofio’i enw!”
Ychwanegodd Osian:
“Mae’n hawdd canolbwyntio ar elfennau negyddol y cyfryngau cymdeithasol, ond dwi’n meddwl fod grwpiau cymunedol yn dangos y cyfrwng ar ei ora’”.
Mae posts poblogaidd yn cynnwys lluniau o adeiladu sydd bellach wedi mynd. Mae rhain yn cynnwys Ysgol Twthill, rhes o adeiladau dros y ffordd i Siop Cae, a llun o’r awyr sy’n cynnwys y pafiliwn, a sawl adeilad arall cafodd eu dymchwel i wneud lle i’r ffordd osgoi yn y 1970au. Post poblogaidd arall ydi lluniau o barti stryd cogydd enwocaf Twthill, Chris Roberts, cafodd ei gynnal ar Heol Victoria yn 2019, fel rhan o’r rhaglen deledu boblogaidd ‘Bwyd Epic Chris’.
Gallwch ddod ar draws y grŵp yn fan yma, ac mae croeso i bawb ymuno.