“Fedrwn i ddim stopio meddwl am beth oedd wedi digwydd iddi”

Stori newyddion gyfarwydd yn ysbrydoli drama

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
247147420_1107322049804643Carys Mair Roberts

Mae dramodydd ifanc o Gaernarfon wedi datgelu mai stori newyddion drasig oedd ysbrydoliaeth ei drama.

Daeth Carys Mair Roberts yn ail yng nghystadleuaeth medal ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-2021. Gydol yr wythnos ddiwethaf cyhoeddwyd enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020. Cyflwynwyd y cyfansoddiadau ddechrau Mawrth 2020, ond erbyn diwedd y mis roedd y wlad mewn cyfnod clo, ac roedd yr Eisteddfod wedi ei gohirio.

Yn ôl Carys, “stori erchyll ar y newyddion” oedd ysbrydoliaeth y ddrama a ddaeth yn ail ar gyfer y brif wobr.

“Mi wnes i sgwennu’r ddrama hon ar ôl gweld stori erchyll ar y newyddion am ddynes ifanc oedd wedi mynd ar goll ar ôl noson allan hefo’i ffrindiau.

“Fedrwn i ddim stopio meddwl am beth oedd wedi digwydd iddi a dychryn dros y posibiliadau o hyn yn digwydd i fi neu un o fy ffrindiau.”

Mynychodd Carys wersi sgriptio gyda Katherine Chandler gyda Phrifysgol Caerdydd, ac yno y dysgodd sut i strwythuro sgript a chreu cymeriadau.

Dyma’r tro cyntaf i Carys gystadlu, a’i thro cyntaf yn ysgrifennu sgript. Fe’i hysbrydolwyd ar ôl gweithio fel Cydlynydd Prosiect gydag awduron a dramodwyr ar brosiect Awduron wrth eu Gwaith fel rhan o Ŵyl y Gelli.

Er bod Carys yn byw yng Nghaerdydd bellach, mae’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol, ac mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Santes Helen ac Ysgol Syr Hugh Owen. Ar ôl gadael Ysgol Syr Hugh, aeth yn ei blaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor a gradd meistr mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ar ôl graddio, bu Carys yn gweithio fel Cynorthwyydd Marchnata a Rhaglennu Creadigol yn y Coleg Cerdd a Drama ac mae hi bellach yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu a Digwyddiadau ym Mhrifysgol Caerdydd.