Fideo i ddathlu Wythnos Gweithredu Dementia

Mae Dementia Actif Gwynedd a Dawns i Bawb wedi rhyddhau fideo arbennig i ddathlu yr wythnos a pwysigrwydd cadw mewn cyswllt.

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Mae tîm Dementia Actif Gwynedd, Cyngor Gwynedd wedi bod yn brysur trwy’r cyfnod clo i gadw mewn cyswllt gyda mynychwyr eu dosbarthiadau mewn sawl ffordd. O gadw cyswllt trwy newyddlen, i alwadau ffôn rheolaidd i ddosbarthidau dros Zoom mae digonedd o hwyl wedi’i gael.

I ddathlu Wythnos Gweithredu Dementia ac i bwysleisio pwysigrwydd cadw mewn cyswllt mae Dementia Actif Gwynedd a Dawns i Bawb wedi dod ynghyd i wneud fideo arbennig yma. Enw’r ddawns yw “Cadw Cysylltiad” ac fe’i perfformir i gerddoriaeth hyfryd Swan Lake. Dyma oedd gan Emma Quaeck, Rheolwr Dementia Actif Gwynedd i ddweud am y prosiect

Mae o wedi bod yn anhygoel o brofiad cydweithio efo Dawns i Bawb, y staff a’r aelodau i greu’r perfformiad yma i ddathlu bod ni wedi cadw mewn cysylltiad trwy amser heriol iawn.”

Roedd yn bwysig gan Dementia Actif Gwynedd i ddysgu’n ogystal yr effaith roedd y fideo’n ei chael ar y perfformwyr yn y fideo ac aeth y staff ati i’w holi:

“Nes i holi’r dawnswyr be oeddynt yn teimlo wrth gwatchad ei hunan yn perfformio, pawb yn deud bod nhw’n teimlo’n hapus, yn gysylltiedig, yn emosiynol, yn afieithus ac nath un ymateb fynd at fy nghalon. Dwi’n teimlo bo fi yn cael fy nghludo o’r cyffredin’ ( Transported from the mundane). Yn amlwg mae bod yn rhan o’r perfformiad wedi neud nhw deimlo bod nhw wedi cael ei gynnwys mewn rhywbeth sbeshal, ac mae hynny wedi golygu’r byd iddynt.”

Mae’r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi bod yn heriol wrth i Dementia Actif Gwynedd golli rhai o’r aelodau triw ac yn ôl Emma roedd hyn yn reswm arall dros wneud y fideo yma.

“Da ni hefyd wedi defnyddio’r ffilm i gofio ffrindiau da ni wedi colli dros 12 mis diwethaf ac i  rhannu golygfeydd anhygoel yng Ngwynedd.”

Mae’r ffilm yn serennu pobl sy’n byw gyda dementia, gofalwyr, cyd-aelodau a staff sydd wedi mwynhau dosbarthiadau ar-lein gyda’i gilydd dros y 12 mis diwethaf.

Gyda’r ieuengaf yn 7 mlwydd oed ar hynaf yn 92 mlwydd oed mae’r fideo yn ddathliad o’r gwaith mae Dementia Actif Gwynedd a Dawns i Bawb wedi ei wneud. Mwynhewch y fideo fan hyn: Cadw Cyswllt Dementia Actif Gwynedd