Galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu cefnogwyr i fynychu “un o’r gemau pwysicaf yn hanes y dref”

Mae Siân Gwenllian AS wedi galw ar weinidog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ornest i “dreialu protocolau newydd”

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu capasiti is o gefnogwyr i fynychu gêm rhwng Caernarfon a’r Drenewydd ddydd Sadwrn.

 

Dywedodd yr AS bod “nifer o bobl” wedi cysylltu â hi ynglŷn â’r gêm bêl-droed sydd i’w chwarae yn yr Ofal, Caernarfon ddydd Sadwrn nesaf.

 

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd CPD Caernarfon hefyd eu bod wedi “derbyn nifer uchel iawn o negeseuon” yn gofyn am fynediad i’r Oval ar gyfer yr ornest, ac er y byddent “wrth ein boddau yn caniatáu i bob un ohonoch ddod i mewn ar gyfer y gêm, nid yw rheoliadau cyfredol y Llywodraeth yn caniatáu hynny.”

 

Yn ei llythyr at Vaughan Gething, sy’n gyfrifol am “ddigwyddiadau mawr” fel rhan o bortffolio’r economi a Dawn Bowden sy’n Ddirprwy Weinidog Chwaraeon, dywedodd Siân Gwenllian AS;

 

“Bydd enillydd y gêm yn sicrhau lle yng nghystadleuaeth Cynghrair Europa y flwyddyn nesaf. Dyma’r gêm bwysicaf yn hanes Tref Caernarfon ac mae llawer o gyffro ymhlith eu cefnogwyr.

 

“Ond ar hyn o bryd nid oes hawl gan y cefnogwyr fynd i’r cae i gefnogi eu tîm. Rwy’n credu ei bod yn amserol defnyddio’r ornest hon i dreialu’r protocolau newydd y mae angen iddynt fod ar waith erbyn mis Awst pan mae gobaith y bydd 300 o glybiau yn ailagor eu drysau i’w cefnogwyr.

 

“Byddai’n gwneud synnwyr penderfynu ar gapasiti is o gefnogwyr a rhoi rhagofalon diogelwch priodol ar waith ar ôl cynnal asesiad risg yn yr Oval.”

 

Yn ôl Siân Gwenllian mae caeau chwarae yn Lloegr wedi croesawu 10,000 o gefnogwyr i wylio gemau pêl-droed dros y penwythnos hwn a bydd 4,000 o gefnogwyr Abertawe a 3,000 o gefnogwyr Casnewydd yn teithio i Wembley y penwythnos nesaf.